Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 1 Hydref 2019.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i ymchwiliad y BBC a ddarlledwyd neithiwr i'r creulondeb ar ffermydd cŵn bach yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae gan orllewin Cymru enw am fod yn brifddinas cŵn bach y DU, a hynny er mawr gywilydd. Nid rhywbeth i ymfalchïo ynddo yw hyn. Yn sicr, nid yw'n rhywbeth y byddem yn dymuno'i hysbysebu ar ein llyfrynnau i dwristiaid. Dangosodd y rhaglen, a hoffwn i ganmol y BBC amdani, greulondeb anghredadwy mewn ffermydd cŵn bach sy'n gofrestredig gan y cyngor. Dangosodd cannoedd o gŵn yn byw mewn cyflwr brwnt, tywyll, llaith ac oer. Arolygir y safleoedd hyn yn flynyddol gan arolygwyr a milfeddygon, pobl sydd i fod i flaenoriaethu lles yr anifeiliaid. Mae nifer o safleoedd wedi'u harolygu a chanfuwyd gwendidau ynddynt, ac mae arolygwyr a milfeddygon wedi cofnodi achosion o dorri rheolau ynghylch lles anifeiliaid gwael. Nid unwaith yn unig oedd hyn, roedden nhw wedi methu'n gyson â bodloni argymhellion ac wedi cael rhybuddion. Er gwaethaf hyn, ni chymerwyd unrhyw gamau yn erbyn y bridwyr a chawsant eu hail-drwyddedu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mewn rhai achosion, nid oedd anghenion sylfaenol hyd yn oed yn cael eu diwallu, megis mewn un safle ger Llandysul a oedd yn ymddangos yn y rhaglen.
Ysgrifennais at gyngor Ceredigion a chyngor Sir Gaerfyrddin ddoe ac roeddwn i wedi rhyfeddu o weld eu bod wedi ymateb mewn llai na 24 awr. Felly, nawr rwy'n gwybod bod angen i mi sicrhau bod gen i'r BBC ar fy ochr er mwyn cael ymateb prydlon. Fodd bynnag, yr hyn sydd wedi fy nychryn i yn un o'r ymatebion hynny yw bod Cyngor Ceredigion wedi caniatáu i un o'r safleoedd a gafodd sylw neithiwr yn Llandysul barhau i fridio, ac, rwy'n dyfynnu, ar drwydded tri mis yn unig. Dywedwch chi hynny wrth gŵn a chŵn bach sy'n byw dan yr amodau hynny, oherwydd nid wyf i wedi fy argyhoeddi y bydd y safleoedd hyn yn cadw at yr amodau sydd wedi'u cymhwyso iddynt. Mae hanes yn dweud wrthych nad fydd hynny'n digwydd. Roedd darpariaeth brin o ddŵr glân a lle cysgu yno—ac rwy'n falch o ddweud bod rhywfaint o gamau wedi'u cymryd ers y rhaglen honno mewn rhai o nodweddion y safle, ond ni ddylai fod angen ymchwiliad gan y BBC cyn i hyn ddigwydd.
Mae'n amlwg bod y ddeddfwriaeth sydd ar waith i ddiogelu'r cŵn hyn yn methu. Nid oes gan yr anifeiliaid hyn lais i siarad drostyn nhw eu hunain, felly mae dyletswydd glir arnom ni i wneud hynny ar eu rhan. Rwyf wedi codi'r materion hyn yn y Siambr hon lawer gwaith, a gallaf gofio'n glir y tynwyd sylw at y mater hwn yn y 1980au gan Esther Rantzen. Roedd hynny dros 30 mlynedd yn ôl, ac eto dyma ni nawr o hyd. Mae Sir Gaerfyrddin yn honni ymagwedd ragweithiol—rwy'n dyfynnu—ond mae'r llwyth o gŵynion a gadarnhawyd yn awgrymu bod rhywbeth sylweddol o'i le yn y broses hon. Gweinidog, hoffwn i wybod pa gamau gweithredu brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, yn sgil yr adroddiad hwn, i ddiogelu lles cŵn bach a chŵn llawndwf yn y ffermydd cŵn bach a drafodir yn y rhaglen hon. Ac mae'n amlwg i mi, o'r ymateb a gefais yn gyflym dros nos, fod yr awdurdodau hyn wedi eu llethu. Os felly, a fyddai'r Gweinidog yn ystyried cyfyngu ar nifer y trwyddedau, gan gyfyngu ar nifer y cŵn yn y safleoedd trwyddedig hynny—er bod Ceredigion, a bod yn deg, wedi gwneud hynny—a hefyd ehangu'r gofal—y gymhareb cŵn 1:20, cynyddu honno? Nid yw un i 20 yn ddigon da—dywedais i hyn ar y pryd—o ystyried nifer y cŵn bach y bydd y cŵn hynny yn esgor arnyn nhw. Rhaid cynyddu'r nifer hwnnw. Lles yr anifeiliaid hyn sydd i ddod yn gyntaf, nid yr elw.
A'r mater arall yr hoffwn i ei godi a godwyd yn y rhaglen honno yw'r methiant llwyr o ran dyletswydd milfeddygon, gan mai hyn sy'n peri'r pryder mwyaf oll i mi. Mae'r rhain i fod yn arbenigwyr yn eu maes. Maen nhw i fod i ddiogelu lles eu hanifeiliaid—. Ac eto rydym wedi gweld arbenigwyr yn dweud, rhai a oedd yn gwylio'r rhaglen hon, eu bod wedi methu yn eu dyletswydd. Mae hynny'n eithaf difrifol. Felly, hoffwn i wybod a oes gennym ni unrhyw bwerau neu fwriad i ddefnyddio dull atgyfeirio i Gymdeithas Milfeddygon Prydain i wneud yn siŵr bod camau'n cael eu cymryd yn erbyn y milfeddygon hynny sydd, yn ôl y rhaglen hon, wedi methu yn eu dyletswydd.