3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 1 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:48, 1 Hydref 2019

Rŷn ni wedi nodi'n glir o'r dechrau y byddai Brexit heb gytundeb yn drychinebus i Gymru, a wnawn ni ddim ymddiheuro am ei ddisgrifio yn y fath fodd. Mae'r datganiadau y prynhawn yma yn dangos y byddai’n cael effaith negyddol ar feysydd niferus yng Nghymru yn y tymor byr, ac yn dinistrio’r economi yn y tymor hir. 

Cyn symud ymlaen i ystyried y camau cadarnhaol yr ydyn ni’n eu cymryd, gadewch inni ystyried am eiliad a yw gadael heb gytundeb yn parhau i fod yn debygol neu beidio. Ym mis Ionawr, wrth inni roi adolygiad manwl i Aelodau’r Cynulliad o'n paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb, rwy'n siŵr nad oedd unrhyw un ohonom wedi dychmygu y byddai’r sefyllfa wleidyddol yn y Deyrnas Unedig, a’r sefyllfa gyfansoddiadol erbyn hyn, wedi mynd i gyflwr mor enbydus. Yn ei ddau fis cyntaf mewn grym, mae Boris Johnson wedi colli ei saith pleidlais fawr gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin, wedi colli ei fwyafrif gweithredol, wedi torri'r gyfraith drwy geisio atal y Senedd dros dro, ac wedi camarwain y Frenhines. Ac mae'n parhau i honni y bydd yn mynd â'r wlad allan o'r Undeb Ewropeaidd erbyn 31 Hydref. Fodd bynnag, mae Deddf yn y llyfr statud i atal hynny, oni bai bod Senedd y Deyrnas Unedig yn cytuno ar ffurf o ymadael. Mae datganiad Boris Johnson am ei fwriad i fynd â’r wlad allan o’r Undeb Ewropeaidd ar ddiwrnod olaf Hydref, cytundeb neu beidio, awgrymu nad yw e’n bwriadu cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth.  

A dim ond rhyw bythefnos i fynd tan uwchgynhadledd y Cyngor Ewropeaidd, dyw hi ddim yn edrych yn debyg bod amser inni gael cytundeb. Yn gyntaf, mae'r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn glir o'r dechrau na wnân nhw ddim cytuno ar drefniadau newydd ar gyfer ymadael heb eu bod yn cael yr un effaith â'r backstop yng nghytundeb Theresa May. Mor ddiweddar ag wythnos diwethaf, dywedodd Michel Barnier,

'Mae Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig am inni gael gwared ar y backstop, ac mae hi am i'r Undeb Ewropeaidd newid y ffordd y bydd y farchnad fewnol a'r ffiniau'n gweithio ar ôl Brexit. 'Rwy'n siŵr y gwnewch chi ddeall', medde fe,

'fod hyn yn annerbyniol.  Fel mae'r Deyrnas Unedig yn meddwl ar hyn o bryd, mae'n anodd gweld sut mae modd cael ateb cyfreithlon fyddai'n cyflawni holl amcanion y backstop'.

Hyd yn oed pe bai cefnogaeth i bedwaredd bleidlais ystyrlon, a oes unrhyw un yn wir yn credu y byddai Senedd y Deyrnas Unedig yn pasio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol i gymeradwyo’r Bil ymadael mewn llai na phythefnos? O gofio hyn, felly, mae siawns dda iawn na chawn ni gytundeb ac y bydd yn rhaid gofyn am estyniad, fel ag sy'n ofynnol o dan y gyfraith. Ond i gael estyniad, rhaid cael cytundeb unfrydol pob un o 27 gwlad yr Undeb Ewropeaidd. Rhaid peidio â chwympo i'r trap y mae cymaint o wleidyddion a sylwebwyr wedi cwympo iddo a chredu taw yn ein dwylo ni y mae'r penderfyniad terfynol. A hyd yn oed o'i gael, o edrych ar yr ochr dduaf, byddai estyniad ond yn gohirio gadael heb gytundeb am ryw ychydig fisoedd. Felly, tra bod gennym ni Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig sy'n benderfynol o wneud yn fach o aruthredd y broblem y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chreu, a thra bo gennym Brif Weinidog yn y Deyrnas Unedig sy'n barod i fynd yn groes i'r gyfraith, mae'r risg o ymadawiad niweidiol iawn heb gytundeb yn parhau'n fyw.

Rwy'n gwybod y cawn ni glywed digon o achwyn a geiriau byrbwyll heddiw am project fear, ond mae Banc Lloegr wedi profi bod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd eisoes wedi costio £80 biliwn i'r economi—mwy na £1,000 am bob person sy'n byw yn y wlad hon. Mae'r holl dystiolaeth rwy wedi'i gweld, gan gynnwys tystiolaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hun, yn dangos na ddylai unrhyw un hyd yn oed ystyried gadael heb gytundeb. Yn y tymor byr, byddai gadael heb gytundeb yn creu aflonyddwch mawr, yn cynyddu'r peryg o ansefydlogrwydd ariannol, ac yn bygwth y cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau hanfodol y mae llawer yn ein cymdeithas yn dibynnu arnyn nhw. Yn y tymor hir, byddai gadael heb gytundeb yn gwneud niwed parhaol i'r economi, yn gwneud drwg i'n henw da rhyngwladol ni ac yn gostwng safonau byw ar draws y wlad i'r graddau na welwyd mo'u tebyg ers i'r Llywodraeth Geidwadol ddifetha sylfeini diwydiant Cymru yn ôl yn y 1980au.

Rydyn ni wedi bod yn glir yn ein safbwynt ac mae gennym dystiolaeth i'w chefnogi: i sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i Gymru, rhaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac rydyn ni felly'n cefnogi ail refferendwm i wireddu'r amcan hwnnw.