Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 1 Hydref 2019.
Nac ydw.
Felly, gadewch i ni fod yn gadarnhaol ynghylch rhai o'r cyfleoedd sydd gennym ni o'n blaenau. Bydd cylch gwario 2019 yn gweld Cymru'n elwa ar hwb o £600 miliwn gan Lywodraeth y DU. Er gwaethaf ansicrwydd Brexit, rydym hefyd yn gweld bod allforion nwyddau wedi codi 4.2 y cant. Rhestrodd y Gweinidog nifer o benderfyniadau diweddar a thrist gan fusnesau'n gorfod cau a swyddi'n cael eu colli, ond nid yw'r rhain, fel y dywedodd y Gweinidog, o ganlyniad i Brexit, yn ôl y datganiadau hynny a ddarparwyd gan y busnesau. Gwelwn hefyd fod Canolfan Awyrofod Eryri wedi cael bron i £500,000 o arian gan Lywodraeth y DU i greu canolfan ar gyfer ymchwil a datblygu gofodol. Er gwaethaf Brexit, rydym ni hefyd wedi gweld cwmnïau eraill yn dewis buddsoddi yng Nghymru, fel Ineos ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ac er gwaethaf Brexit, rydym ni hefyd wedi gweld nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi yng Nghymru yn cynyddu 10,000, a nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi yn y diwydiant gwybodaeth a chyfathrebu yn cynyddu o 34,000 i 58,000. Felly, byddwn yn pledio wrth y Llywodraeth, yn ei holl ddatganiadau ar Brexit, ein bod yn gweld datganiadau mwy cytbwys yn cael eu cyflwyno. [Torri ar draws.] Cydffederasiwn Diwydiant Prydain—dof at y Cydffederasiwn, Dirprwy Weinidog, peidiwch â phoeni.
Hefyd, Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn, yn eich datganiad y prynhawn yma, am y ffaith eich bod wedi ysgrifennu at 18,000 o fusnesau, a'ch bod yn eu hannog hwythau hefyd, fel y byddwn i, i gael gohebiaeth drwy wefan Busnes Cymru, i ddefnyddio Porth Brexit. Ac rwy'n tybio a oes gennych chi unrhyw ystadegau neu ddata ynglŷn â faint o fusnesau sydd wedi defnyddio'r porth busnes mewn gwirionedd. Nawr, roedd y Dirprwy Weinidog, a oedd yn gweiddi o'r cefn, yn awyddus imi siarad am Gydffederasiwn Diwydiant Prydain. Wel, Dirprwy Lywydd, mae'r Cydffederasiwn wedi gwneud asesiad yn ddiweddar o gynlluniau ailwladoli Llafur ar ôl Brexit. [Torri ar draws.] Doeddwn i ddim yn meddwl y byddech yn hoffi'r darn hwnnw. Felly, fe wnaethon nhw ddweud, ac rwy'n dyfynnu:
Bydd gwamalu am ailwladoli yn andwyol i fuddsoddwyr sydd eisoes yn simsanu oherwydd ansicrwydd presennol... Heb fuddsoddiad ac arloesedd gan y sector preifat, bydd ymdrechion i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd neu uwchraddio seilwaith yn pallu, gan arwain at effeithiau canlyniadol difrifol.
Rwy'n gwybod nad yw'r Dirprwy Weinidog, sy'n gweiddi yn y cefn, eisiau imi siarad am y darn hwn, ond byddai'n dda gennyf glywed ymateb y Gweinidog i'r asesiad hwn gan y Cydffederasiwn, a chlywed a yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo dull Jeremy Corbyn o reoli economi'r DU, ac a fyddwch yn ceisio efelychu'r dull hwnnw, fel yr wyf wedi'i amlinellu, yma yng Nghymru. Roeddwn yn falch o rai o'r sylwadau a wnaeth y Gweinidog am y seilwaith trafnidiaeth, a fydd, mi gredaf, yn ganolbwynt i sicrhau bod Cymru'n parhau ar agor ar gyfer busnes ar ôl Brexit—