Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 1 Hydref 2019.
Rwy'n cydnabod hefyd y pwyntiau a grybwyllwyd am y symiau o arian. Nid yw'r rhan hon o'r gwasanaeth iechyd gwladol nac unrhyw ran arall ohono yn credu fod y symiau ffantasi o arian a ddisgrifir yn rhai gwirioneddol. Mae gennym ni werth blwyddyn o arian inni gynllunio cyllideb ar ei gyfer. Mae'r syniad y dylwn i ymrwymo i dair blynedd o wariant ar sail addewidion nad yw hyd yn oed y gwasanaeth yn eu credu yn ffansïol dros ben.
O ran eich sylw am gyflenwadau bwyd yn y GIG, buom yn trafod hyn yn rheolaidd. Wrth gwrs, mae gennym ni'r gallu i ddarparu bwyd o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae'r sylw a wnes i yn y datganiad yn ymwneud â'r posibilrwydd y bydd angen cyfnewid neu newid rhywfaint ar hynny, heb gyfaddawdu ar safonau maeth. Mae'n fwy anodd i rai o'n darparwyr gofal cymdeithasol wneud hynny, yn enwedig y busnesau llai hynny sy'n bodoli, ac, fel y dywedais, mae yna bwynt syml sef y bydd effaith ar y dewis o fwyd yn sicr, ond rydym yn ymrwymo i gynnal safonau maeth.
O ran recriwtio staff, nawr, rydym ni wedi gweld her sylweddol o ran recriwtio staff, o ran cofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn arbennig. Rydym ni wedi cael ein gwarchod yn gymharol rhag hynny, o gymharu â Lloegr. Bu gostyngiad trychinebus yn nifer y cofrestriadau newydd ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth gan bobl o bob rhan o Ewrop, ac mae'n destun pryder gwirioneddol. Pe baech yn cael y sgwrs hon gyda Choleg Brenhinol y Bydwragedd neu Goleg Brenhinol y Nyrsys neu Unsain, yna bydden nhw'n dweud wrthych am wirionedd y sefyllfa lle mae pobl yn dewis gadael Lloegr, yn arbennig, oherwydd nid yn unig y dewisiadau polisi, ond yr amgylchedd a'r iaith a ddefnyddir i'w disgrifio. Rwy'n falch ein bod yma yng Nghymru—ac yn yr Alban hefyd, a bod yn deg—wedi pwysleisio'n gyson ein bod yn ystyried ein staff yn werthfawr wrth ddymuno cael pobl i aros, a bydd hynny'n parhau.
Fodd bynnag, mae angen i mi nodi bod y cynigion ar gyfer cael trothwy cyflog i ymfudwyr yn weithred o fandaliaeth di-alw-amdani ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae'r cyflog cyfartalog yn y sector gofal cymdeithasol yn llai nag £17,000 yng Nghymru. Byddai cael trothwy cyflog o £30,000 yn drychinebus i ofal cymdeithasol, a byddai'n cael effaith ddifrifol ar y gwasanaeth iechyd. Nid yw hi'n rhy hwyr i Geidwadwyr yn Llywodraeth y DU arddel synnwyr cyffredin a rhoi terfyn ar y cynigion hynny, neu byddant yn gwneud niwed difrifol ac arwyddocaol i wasanaethau iechyd a gofal.
Fe wnaf i ymdrin â'ch sylwadau am feddyginiaethau. O ran lleihau'r cynnydd mewn costau a'r sylwadau yr ydych chi'n eu gwneud am gyflenwadau wrth gefn ychwanegol, mae'r rhain yn drefniadau ar gyfer y DU gyfan sy'n cael eu rhoi ar waith. Nid y Llywodraeth yn gweithredu dros Loegr yn unig yw hyn, ac mae hyn yn rhan o'r cyfrifoldebau sydd gan y DU. Mae'n gyfrifoldeb ar y DU i gyflenwi meddyginiaeth i'r Deyrnas Unedig, ac mae trefniadau'n bod sy'n cynnwys y prif swyddogion meddygol a'r prif swyddogion fferyllol er mwyn goruchwylio sut y byddid yn ymdrin â phrinder o ran gwneud yn siŵr y caiff meddyginiaethau eu dosbarthu'n deg ledled y wlad.
O ran trefniadau trafnidiaeth, unwaith eto, mae hyn yn rhan o gyfrifoldebau'r DU gyfan. Mae tua thraean o'r diwydiant fferyllol wedi gwneud eu trefniadau eu hunain ac wedi gwario arian sylweddol wrth wneud hynny. Mae tua dwy ran o dair yn dibynnu ar y trefniadau trafnidiaeth y mae Llywodraeth y DU yn eu darparu. Ac, o ran hyn, byddaf yn cydnabod y bu gwelliant yn y paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb gan Lywodraeth y DU o fis Mawrth. Byddwch yn cofio ei fod yn chwerthinllyd, fod cwmnïau fferi nad oedd ganddyn nhw fferi wedi ennill contractau, a bod yn rhaid talu arian i gwmnïau fferi ac i Eurotunnel am drefniadau a roddwyd ar waith. Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth y DU mewn gwell sefyllfa nawr. Ar ôl dysgu o'r camgymeriadau a'r gwastraffu arian sylweddol, maen nhw bellach mewn gwell sefyllfa, ond yr her fydd, os bydd dwy ran o dair o'r cyflenwad yn dibynnu ar y trefniadau fferi diweddaraf, yna byddwn yn wynebu'r heriau gwirioneddol a nodir yn nogfen Yellowhammer ynghylch cerbydau nwyddau trwm yn cronni.
Fy mhryder mwyaf ynglŷn â'r cyflenwad meddyginiaethau mewn gwirionedd yw dosbarthu'r nwyddau ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r dystiolaeth a ddarparwyd yn y datganiad gan Yellowhammer ym mis Awst yn ddigon i'ch sobri, ac ni ddylai neb fod yn obeithiol yn ei gylch a gwneud dim ond honni bod yn rhaid inni fwrw ymlaen a gadael heb gytundeb os mai dyna'r cyfan sy'n ein hwynebu, oherwydd mae hwnnw'n nodi'r niwed gwirioneddol a sylweddol a gaiff ei achosi, a'r amhariadau difrifol dros hyd at chwe mis a fyddai'n ein hwynebu ar draws y culfor. Felly, nid yw hwn yn fater dibwys. Mae meddyginiaethau yn eitemau categori 1; byddant yn cael y flaenoriaeth o ran y capasiti sy'n bodoli. Wedyn mae angen inni gael y nwyddau hynny o amgylch y wlad, ac ynghylch hynny, rydym yn cymryd rhan ar lefel swyddogol ac rydym mewn sgyrsiau gweinidogol am yr union faterion hynny.
Rwyf eisiau gwneud y pwynt olaf arall am feddyginiaethau, sef na ddylai'r un ohonom ni fod yn rhy obeithiol ynghylch y prinder posib a achosir. Ceir prinder arferol yn y gwasanaeth iechyd ac fe gaiff hynny ei reoli, mae hynny'n wir. Ond rydym ni mewn cyfnod eithaf rhyfeddol, ac nid ydym ni erioed wedi dewis gwneud rhywbeth yn fwriadol y gwyddom ni y bydd yn peryglu cyflenwadau meddyginiaeth. Er gwaethaf yr holl ddadansoddi sydd gennym ni ar y trefniadau sy'n cael eu rhoi ar waith nawr, os effeithir ar un feddyginiaeth unigol oherwydd Brexit heb gytundeb, yna bydd pob un person sy'n dibynnu ar y feddyginiaeth honno yn edrych arnom ni, yn ddealladwy, ac yn dweud, 'pam wnaethoch chi hyn? Pam wnaethoch chi fynnu bod Brexit yn digwydd os oeddech chi'n gwybod bod hyn yn risg i mi a'm hiechyd? Byddaf yn edrych yn fodlon i fyw llygaid y bobl hynny ac yn dweud, 'rydym ni wedi gwneud y peth iawn wrth godi'r materion hyn.' Mae angen i Aelodau eraill o ba blaid bynnag ystyried yn ofalus eu safbwynt ar Brexit heb gytundeb a'r peryglon a ddaw yn sgil hynny i iechyd a lles pobl yng Nghymru.