6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Paratoi'r gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru ar gyfer Brexit heb gytundeb

– Senedd Cymru am 4:36 pm ar 1 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:36, 1 Hydref 2019

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar baratoi'r gwasanaethau iechyd a gofal ar gyfer Brexit heb gytundeb, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwyf wedi nodi effeithiau sylweddol posib Brexit heb gytundeb ar gyfer ein gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y Siambr hon ar sawl achlysur. Mae fy safbwynt yn dal yn hollol glir: mae Brexit heb gytundeb yn golygu peryglon sylweddol i wasanaethau yng Nghymru a'r cyhoedd y maen nhw'n eu gwasanaethu.

Mewn sefyllfa o ansicrwydd hanesyddol, rwyf wedi canolbwyntio ar weithio gyda phob partner i gyfyngu, cyn belled â phosib, ar y niwed y byddai Brexit heb gytundeb yn ei achosi i'n GIG a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol. Gyda'n gilydd, rydym yn sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i baratoi ar gyfer effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac i ymateb yn gyflym i faterion ac effeithiau wrth iddyn nhw godi os byddwn yn gadael. Mae'r trefniadau hyn wedi cael eu profi a'u hymarfer droeon, ac i'r graddau eu bod hi'n bosib, eu sicrhau. Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir: er ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i baratoi, ni all unrhyw faint o gynllunio warantu Brexit lle na fydd unrhyw darfu. Mae awgrymu fel arall yn gamarweiniol ac yn anghyfrifol iawn.

Bydd gadael yr UE yn cael effaith dros y tymor byr, canolig a hir. Ein blaenoriaeth fu sicrhau parhad cyflenwadau hanfodol, fel y gellir cynnal gwasanaethau, cyn belled ag sy'n bosibl, ar sail busnes fel arfer. Bydd hyn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i weithio'n briodol ac yn hyderus, gan sicrhau gymaint ag y gallwn ni na chaiff y cyhoedd a chleifion eu heffeithio'n andwyol. Y peth olaf y dylem ni ei wneud yw cyflwyno cymhlethdod ac ansicrwydd ychwanegol i'r cyhoedd a'n staff, yn enwedig wrth i'r gaeaf agosáu.

Rydym ni wedi chwilio am gyfleoedd i gryfhau capasiti o fewn y sector y tu hwnt i gyd-destun uniongyrchol Brexit. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi cymeradwyo prynu a stocio cyfleuster storio ychwanegol i sicrhau nad amherir ar gyflenwadau o offer meddygol ac eitemau hanfodol. Roedd y buddsoddiad hwn o £11 miliwn yn angenrheidiol ac yn fater brys yn sgil y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb ym mis Mawrth. I roi hynny yn ei gyd-destun, gallai'r £11 miliwn a wariwyd ar warws fod wedi talu am saith sganiwr delweddu cyseinedd magnetig newydd yn lle hynny.

Mae llawer o'r ymatebion hanfodol i Brexit heb gytundeb yn gyfrifoldebau Llywodraeth y DU. Rydym yn parhau i bwyso am sicrwydd ynghylch materion megis llif nwyddau drwy borthladdoedd, statws preswylydd sefydlog ar gyfer dinasyddion yr UE, ac yn herio'n gadarn mewn meysydd lle mae angen gwarchod buddiannau Cymru.

O ran meddyginiaethau, rydym yn cymryd rhan mewn trefniadau ledled y DU i gynnal cyflenwadau, gan weithio'n agos gyda'r diwydiant. Mae prosesau wedi'u sefydlu i reoli prinder meddyginiaethau, a bydd y rhain yn berthnasol i unrhyw brinder a achosir gan Brexit. Byddant yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o feddyginiaethau a allai fod mewn perygl. Mae trefniadau tebyg ledled y DU ar waith ar gyfer radioisotopau, wedi'u cefnogi gan ddulliau cyflym a phwrpasol o gludo nwyddau i feysydd awyr. Unwaith eto, rhoddwyd y trefniadau hyn ar waith ac ar brawf yn ddiweddar mewn ymateb i bryderon a godwyd yn eang gan glinigwyr a grwpiau proffesiynol.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:40, 1 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Yn ogystal â meddyginiaethau, mae cannoedd o filoedd o gynhyrchion y mae'r GIG yn dibynnu arnyn nhw bob dydd. Mae'r rhain yn cynnwys popeth o orchuddion a rhwymynnau i fenig, chwistrellau, nodwyddau a llawer mwy. Ar gyfer y dyfeisiau meddygol a'r deunyddiau traul clinigol hyn, rydym yn parhau i weithio'n agos gyda GIG Cymru i gynyddu'r stoc sydd gennym ni. O'r dechrau, mae ein cynllunio wedi cynnwys darparu eitemau allweddol a ddefnyddir gan ddarparwyr gofal cymdeithasol hefyd, yn ogystal â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Hyd yn hyn, mae pentyru'r stoc ychwanegol cyffredinol hwn wedi costio dros £5 miliwn.

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu, fel y dywedodd Lesley Griffiths, y bydd prinder bwyd yn gyffredinol, ond bydd Brexit heb gytundeb yn arwain at leihad yn y dewis o rai bwydydd a fewnforir o'r UE a bydd hi'n anoddach cael gafael arnyn nhw. Mae Consortiwm Manwerthu Prydain wedi bod yn glir iawn ynghylch hyn. I baratoi, rydym ni wedi gofyn i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ystyried sut y gellid addasu prydau bwyd os yw'n anodd cael gafael ar rai cynhwysion, heb, wrth reswm, gyfaddawdu ar safonau maeth.

Pryder mawr i mi erioed yw effaith bosib Brexit ar ein gweithlu, nid yn unig o ran darparu gwasanaethau, ond mae hyn yn mynd at wraidd pwy ydym ni fel cenedl. Ni allem ni ddarparu ein gwasanaethau iechyd a gofal heb staff o Ewrop a ledled y byd. Rwy'n ystyried ein holl staff yn gyfwerth â'i gilydd, beth bynnag fo'u gwlad enedigol, ac rwy'n parhau i atgyfnerthu'r neges hon yn gyhoeddus ac i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae'n destun rhwystredigaeth anghredadwy i mi fod Llywodraeth y DU yn parhau i hybu cyfyngiadau ar recriwtio staff a fyddai heb os nac oni bai yn niweidiol i wasanaethau iechyd a gofal ac, wrth gwrs, i'r bobl agored i niwed sy'n dibynnu arnyn nhw.

Hyd yn hyn nid ydym ni wedi gweld nifer sylweddol o ddinasyddion yr UE yn gadael gwaith mewn iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru, ond mae rhannau eraill o'r DU wedi gweld hyn. Rydym ni'n gweld gostyngiad mewn recriwtio o dramor, a fydd yn cael effaith ddifrifol yn y tymor canolig os bydd yn parhau. Efallai hefyd y gwelwn ni staff iechyd a gofal yn symud i swyddi mewn sectorau eraill, y mae rhai ohonyn nhw eisoes wedi gweld colledion sylweddol o ran gwladolion yr UE.

Er bod goblygiadau uniongyrchol Brexit—ac yn enwedig Brexit heb gytundeb—eisoes yn sylweddol ac yn bellgyrhaeddol, ceir effeithiau eraill mwy anuniongyrchol a allai arwain at ganlyniadau uniongyrchol, difrifol i ddarparwyr iechyd a gofal. Er enghraifft, mae cost bwyd, tanwydd a meddyginiaethau yn debygol o gynyddu mewn sefyllfa o adael heb gytundeb o ganlyniad i lai o gyflenwad a phunt wannach. Byddai hyn yn effeithio'n arbennig ar sefydliadau yn y sector gofal cymdeithasol. Ledled Cymru, mae 1,275 o ddarparwyr cartrefi gofal yn darparu gofal a chymorth i fwy na 26,000 o bobl. Mae traean o'r darparwyr hynny'n fusnesau bach sydd â llai na chwe gwely. Byddai llawer yn gweld cynnydd mewn prisiau yn anodd ei ysgwyddo, a byddai'r cynnydd hwn yn effeithio ar wasanaethau eraill sy'n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl, megis pryd ar glud a chanolfannau dydd.

Byddai prisiau mwy, wrth gwrs, yn taro rhai rhannau o'n gweithlu'n arbennig o galed, er enghraifft staff gofal cartref. Byddai hyn yn enghraifft wirioneddol ac anghyfiawn o'r ffordd y byddai gadael heb gytundeb yn cael effaith anghymesur ar bobl mewn grwpiau incwm is a grwpiau mwy agored i niwed. Mae hynny, wrth gwrs, wedi'i nodi'n glir yn y ddogfen Yellowhammer a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Os gwelwn ni'r colledion swyddi a ragwelir yn dilyn Brexit heb gytundeb, byddai hyn yn arwain at fwy o alw am wasanaethau iechyd a gofal, yn enwedig cymorth iechyd meddwl. Er ei bod hi'n anodd mesur hyn, gallwn ddisgwyl cynnydd yn y gost a'r amser a gymerir i gael triniaeth gan nad oes gennym ni'r nifer o weithwyr proffesiynol sydd eu hangen i ymateb i faint o alw a ragwelir.

Mae'n parhau i beri rhwystredigaeth i mi fod paratoi ar gyfer Brexit yn dargyfeirio cymaint o egni ac adnoddau o feysydd pwysig eraill. Ein hamcangyfrif yw bod cyfwerth â rhwng 50 a 100 o swyddi llawn amser wedi'u neilltuo ar gyfer paratoi am sefyllfa o adael heb gytundeb ledled y maes iechyd a gofal yng Nghymru—digon i gynnal nifer sylweddol o feddygfeydd teulu canolig yng Nghymru yn lle hynny. Mae bod yn barod am Brexit yn defnyddio amser sylweddol arweinwyr a rheolwyr ym mhob haen o'n sefydliadau. Dylai'r bobl hyn fod yn gweithio ar flaenoriaethau eraill i wella'r gwasanaethau yr ydym ni'n eu darparu ar gyfer pobl Cymru, yn hytrach na pharatoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb a fydd, fel y dywedais, y math gwaethaf posib ar Brexit a'r canlyniad Brexit a fyddai'n achosi'r niwed mwyaf. Fodd bynnag, rwyf yn ddiolchgar i'r holl staff sy'n gweithio yn y gwasanaethau iechyd a gofal am eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad wrth baratoi ar gyfer y posibilrwydd y bydd Brexit heb gytundeb. Rydym ni wedi gweithio'n galed i ddiogelu buddiannau'r cyhoedd a chleifion yng Nghymru a byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i asesu effeithiau gadael yr UE ac i sicrhau ein bod mor barod ag y gallwn ni fod o fewn rheswm. Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i atal Llywodraeth y DU rhag ein harwain at Brexit heb gytundeb trychinebus, a fydd yn anochel yn taro Cymru'n galetach na rhannau eraill o'r DU.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 4:45, 1 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gael y diweddariad hwn gennych chi, Gweinidog, oherwydd, boed yna gytundeb neu ddim cytundeb, mae angen i ni gyflawni Brexit.

Nawr, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi canlyniad y refferendwm. Pleidleisiodd mwyafrif llethol pobl Cymru o blaid gadael, ac mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i wneud y paratoadau angenrheidiol. A gadewch i ni fod yn onest, mae gadael heb gytundeb yn ganlyniad uniongyrchol i Lafur yn San Steffan yn pleidleisio yn erbyn cynigion cytundeb Brexit dro ar ôl tro. Fe wnaethon nhw bleidleisio yn ei erbyn ar bob achlysur, Gweinidog, ac, i fod yn deg, neu i fod yn onest, neu i fod yn blwmp ac yn blaen, unwaith eto, nid yw Jeremy Corbyn yn dangos unrhyw arweiniad ar hyn.

Mae'r negeseuon e-bost a'r galwadau ffôn a gaf gan bobl o bob tuedd wleidyddol, a chan bobl nad oes ganddyn nhw unrhyw deyrngarwch gwleidyddol o gwbl—yn rhwystredig; maen nhw eisiau gweld cyflawni hyn, maen nhw eisiau cau pen y mwdl ar hyn. Maen nhw eisiau i Brexit gael ei gyflawni. Ac mae angen gwneud hynny gan ddiogelu ein GIG a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol. A, Gweinidog, o gofio bod diogelu ein GIG yn hanfodol, a wnewch chi groesawu'r £1.2 biliwn o fuddsoddiad y gall Llywodraeth y DU ei wireddu, a ddylai allu dod i Gymru? Ac a wnewch chi ymrwymo i sicrhau y caiff y £1.2 biliwn hwnnw dros y tair blynedd nesaf ei wario ar ein GIG a'n gofal cymdeithasol? Oherwydd, ar ôl i'ch Llywodraeth fod mewn grym am 20 mlynedd yma yng Nghymru, rydym ni ar ei hôl hi yn ein GIG. Mae pedwar o'n saith Bwrdd Iechyd bellach yn destun ymyriadau wedi eu targedu neu fesurau arbennig. Mae gwasanaethau iechyd meddwl Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig yn hirach nag unrhyw Fwrdd Iechyd arall yn unrhyw le yn y DU. Yng Nghymru, ni chyrhaeddwyd y targed o 95 y cant o gleifion yn treulio llai na phedair awr mewn uned damweiniau ac achosion brys ers ei gyflwyno yn 2008. A'r tro diwethaf i GIG Cymru gyflawni ei amseroedd aros o ran canser oedd yn 2008. Ac i wneud pethau'n waeth, gwasanaeth ambiwlans Cymru sydd wedi gweld yr oedi hwyaf mewn unrhyw ymddiriedolaeth GIG yn y DU. Felly, a wnewch chi ymrwymo, Gweinidog, yn y fan yma nawr, i sicrhau bod unrhyw arian ychwanegol, sef £1.2 biliwn, o ganlyniad i symiau canlyniadol ym maes iechyd, yn cael ei wario ar ein GIG?

Rydych chi'n sôn, yn eich datganiad, am brinder cyffuriau. Nawr, mae Conffederasiwn GIG Cymru yn glir iawn ynghylch hyn: fe ddywedon nhw fod y prinder meddyginiaethau yn arferol yn y GIG a'r her yw sut i'w reoli. Ac rwy'n ffyddiog bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'r diwydiant fferyllol i sicrhau nad effeithir ar gyflenwadau ac y caiff costau uwch eu lleihau. Rwy'n credu bod codi bwganod ynghylch y mater hwn yn beryglus iawn. Mae'n rhaid ei bod hi'n frawychus i bobl sy'n gwylio'r hyn sy'n digwydd, a dim ond effaith negyddol a gaiff hyn, ar brisiau, ar gasglu stoc ynghyd ac ar amgyffred y cyhoedd. Ac ailadroddaf eto, mae Conffederasiwn y GIG ei hun yn dweud, 'Mae ein haelodau yn dweud wrthym nad oes problemau ar hyn o bryd o ran cael gafael ar feddyginiaethau o ganlyniad i Brexit.'

Nawr, mae'r GIG yn Lloegr wedi amlinellu'r cynlluniau wrth gefn canlynol: maen nhw wedi argymell bod cyflenwyr meddyginiaethau yn cronni o leiaf chwe wythnos o stoc ychwanegol yn fwy na'r hyn sydd ganddyn nhw wrth gefn fel arfer. A wnewch chi ddweud wrthyf i, Gweinidog, a ydych chi wedi gwneud yr un peth i'n cyflenwyr ni yma yng Nghymru? Roeddwn yn falch iawn o weld yn eich datganiad eich bod wedi ymrwymo i gyfleusterau warysau a storio ychwanegol ar gyfer angenrheidiau meddygol ac offer meddygol. Ond, yn amlwg, gellir eu defnyddio ar gyfer rhai o'r meddyginiaethau hyn hefyd. A ydych chi wedi bod yn ymwneud â datblygu pethau fel prynu lle ychwanegol ar longau fferi fel y bydd meddyginiaethau a chynnyrch meddygol yn gallu dod i mewn i'r DU? A fuoch chi'n ymwneud ag annog ailgyfeirio meddyginiaethau i'r DU? A ydych chi wedi bod yn rhan o'r trafodaethau, neu wedi bod yn rhan o'r broses, o hyrwyddo'r ffaith y gellir parhau i ddefnyddio meddyginiaethau, dyfeisiadau a threialon clinigol a drwyddedwyd neu a brofwyd yn yr UE yn y DU os bydd Brexit heb gytundeb drwy ddiwygio'r rheoliadau hynny? Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn petaech chi'n gallu rhoi diweddariad i ni ynghylch y materion penodol hynny.

Fe wnaethoch chi sôn am gyflenwadau bwyd, fel y gwnaeth Gweinidog yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Unwaith eto, nid wyf yn dymuno codi ofn ar bobl sydd efallai'n poeni, pe baen nhw'n mynd i'r ysbyty, na fydden nhw'n gallu cael unrhyw fwyd, oherwydd, wrth gwrs, dim ond rhai pethau fydd allan o drefn—allai fod allan o drefn. Oherwydd y gwir amdani yw, nid oes neb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd. Felly, a wnewch chi gadarnhau—rwy'n gwybod ichi ddweud eich bod wedi gofyn i fyrddau iechyd edrych ar hyn, ond a wnewch chi gadarnhau fod y byrddau iechyd eu hunain wedi ymgysylltu â'u staff ac wedi rhoi'r cyfarwyddiadau y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw?

Fe wnaethoch chi sôn am faterion recriwtio. Nawr, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod, onid ydym ni, yma yng Nghymru, mae gennym ni gyfres arbennig, cyfres unigryw, o broblemau ynghylch recriwtio, ac nid Brexit yn unig yw hyn—i adael neu i beidio â gadael. Rydym ni wedi cael problemau ynghylch awydd pobl i ddod i Gymru; rydym ni wedi cael problemau ynghylch pobl yn amau a yw'r ysbyty y gallen nhw fynd i weithio iddo yn ddigon sefydlog ac yn ddigon cryf; rydym ni wedi cael problemau oherwydd y tanfuddsoddi hanesyddol mewn lleoedd hyfforddi a'r anhawster i ddarparu arbenigeddau hyfforddi. Felly, pe gallech chi efallai roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y modd y gallai Brexit heb gytundeb effeithio ar y mathau hynny o broblemau, rwy'n credu y byddai hynny, unwaith eto, yn helpu i egluro'r sefyllfa yn well o lawer.

Rwy'n falch iawn o weld, yn ôl eich datganiad, bod nifer y gwladolion o'r UE a gyflogir gan y GIG yng Nghymru wedi cynyddu mewn gwirionedd, er gwaethaf Brexit. Yn wir, Llywydd, rydym ni wedi gweld cynnydd syfrdanol o 42 y cant yn nifer y gwladolion o'r UE sy'n gweithio yn GIG Cymru ers 2015, ac mae croeso mawr i bob un ohonyn nhw yma. Ac mae'n dda gweld ein bod ni'n dal yn arwain y byd yn y DU o ran arloesi gyda meddyginiaethau newydd. Nawr, rydym ni'n sôn am fuddsoddi a buddsoddi yn y GIG, ond mae angen inni gofio, yma yng Nghymru, er enghraifft, fod ReNeuron newydd daro bargen gwerth £80 miliwn â'r cwmni Tsieineaidd Fosun Pharma ym mis Ebrill eleni ar gyfer datblygu gwasanaethau sy'n gysylltiedig â strôc a rhaglenni therapi dallineb llinell cell genedlyddol retina dynol. Nawr, nid yw hynny'n arwydd o ansicrwydd ac mae hynny'n wirioneddol dda, a dyna'r math o fusnes y mae angen inni fynd ar ei ôl.

Mae'r gwariant ar ymchwil a datblygu yng Nghymru yn gryf o hyd, yn gryf yn y DU. Disgwylir y bydd yn cynyddu 3 y cant yn y tymor hwy. Ac, wrth gwrs, bydd y toriadau yn y dreth gorfforaeth o fudd i gwmnïau fferyllol y DU. Ond a wnewch chi ddweud wrthyf pa effaith a gaiff cynigion asgell chwith galed Llafur o dan 'Medicines for the Many' ar enw da'r DU o ran arwain y byd o ran ymchwil a datblygu ar gyfer meddyginiaethau? Gan gymryd Tsieina a Chiwba fel enghreifftiau, dywedodd arweinydd yr wrthblaid, Jeremy Corbyn, y byddai Llywodraeth Lafur yn defnyddio trwyddedu gorfodol i sicrhau fersiynau generig o feddyginiaethau patent, a dal cwmnïau fferyllol yn wystl drwy ddweud wrthyn nhw, os ydyn nhw eisiau arian ymchwil cyhoeddus, yna bydd yn rhaid iddyn nhw wneud eu cyffuriau'n fforddiadwy i bawb. Ac rydych chi a minnau'n gwybod pa mor bwysig yw cael cyffuriau fforddiadwy yn y GIG, oherwydd bod gennym ni gyllideb sy'n crebachu'n barhaus ac anghenion mwy fyth. Ond mae Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain wedi dweud bod trwyddedu gorfodol yn gyfystyr ag atafaelu ymchwil newydd ac y byddai'n tanseilio'r ymchwil a'r datblygiad rhyfeddol hwn sydd gennym ni yma yng Nghymru, yn enwedig ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe. Felly, byddai eich eglurhad ar y mater hwn a'r effaith y byddai hynny'n ei gael arnom ni—Brexit neu ddim Brexit—yn werth gwrando arno yn wir.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:53, 1 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am y gyfres o sylwadau ac ychydig o gwestiynau yn y fan yna. Rwy'n eich llongyfarch ar ymgais wynebsyth i dreulio cymaint o amser yn tynnu sylw oddi wrth y paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb. Nid wyf yn mynd i gael fy anfon ar drywydd pethau nad oes a wnelon nhw ddim â'r datganiad a wnes i ar y paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb.

Er hynny, rwyf eisiau dychwelyd at rai o'r pwyntiau a wnaethoch chi am Brexit. Fe ddywedoch chi bod yn rhaid i Brexit gael ei gyflawni, un ffordd neu'r llall. Fe sonioch chi am ganlyniad ysgubol yma yng Nghymru; nid oedd yn ganlyniad ysgubol. Ac roeddech chi'n sôn bod yn rhaid i Brexit heb gytundeb gael ei gyflawni, ond mae amddiffyn—gadael heb gytundeb yn ffordd bosib ymlaen ar gyfer hyn, ac yna sôn, ar yr un pryd, am ddiogelu ein GIG a gofal cymdeithasol. Ac, mewn gwirionedd, y canlyniad gwaethaf posib i iechyd a gofal cymdeithasol, i'n staff a'r cyhoedd sy'n dibynnu arno, yw gadael heb gytundeb. Nid yw hyn yn gymhleth. Nid yw'n anodd. Mae adroddiadau'r Llywodraeth ei hun ar Yellowhammer yn cydnabod hyn; mae cydweithwyr Ceidwadol ledled y wlad yn cydnabod y niwed y byddai Brexit heb gytundeb yn ei wneud i iechyd a gofal cymdeithasol. Ac, i fod yn gwbl glir, nid ydym ni yn y sefyllfa hon oherwydd y ffordd y mae Aelodau Seneddol Llafur wedi pleidleisio mewn ymateb i gytundebau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU. Ac os yw'r Aelodau—[Torri ar draws.] Os yw'r Aelodau eisiau edrych ar ble roedden nhw cyn yr etholiad cyffredinol—yn mwynhau mwyafrif Ceidwadol, y fargen a wnaethpwyd gyda'r DUP, y ffaith eich bod wedi colli aelodau o'r grŵp ymchwil Ewropeaidd, a oedd yn gweithredu fel plaid o fewn plaid—mae'n ddigon posib eu bod wedi meddiannu gweddill y blaid Dorïaidd nawr, ond, mewn gwirionedd, mae digon o Geidwadwyr na fydden nhw'n cefnogi'r cytundeb a ddarperir. Nid oes a wnelo hyn ddim â'r ffordd y mae Aelodau Seneddol Llafur wedi pleidleisio, mae a wnelo â phopeth sy'n ymwneud ag anallu'r Llywodraeth i gyflawni'r addewidion y mae wedi'u gwneud.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:55, 1 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cydnabod hefyd y pwyntiau a grybwyllwyd am y symiau o arian. Nid yw'r rhan hon o'r gwasanaeth iechyd gwladol nac unrhyw ran arall ohono yn credu fod y symiau ffantasi o arian a ddisgrifir yn rhai gwirioneddol. Mae gennym ni werth blwyddyn o arian inni gynllunio cyllideb ar ei gyfer. Mae'r syniad y dylwn i ymrwymo i dair blynedd o wariant ar sail addewidion nad yw hyd yn oed y gwasanaeth yn eu credu yn ffansïol dros ben.

O ran eich sylw am gyflenwadau bwyd yn y GIG, buom yn trafod hyn yn rheolaidd. Wrth gwrs, mae gennym ni'r gallu i ddarparu bwyd o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae'r sylw a wnes i yn y datganiad yn ymwneud â'r posibilrwydd y bydd angen cyfnewid neu newid rhywfaint ar hynny, heb gyfaddawdu ar safonau maeth. Mae'n fwy anodd i rai o'n darparwyr gofal cymdeithasol wneud hynny, yn enwedig y busnesau llai hynny sy'n bodoli, ac, fel y dywedais, mae yna bwynt syml sef y bydd effaith ar y dewis o fwyd yn sicr, ond rydym yn ymrwymo i gynnal safonau maeth.

O ran recriwtio staff, nawr, rydym ni wedi gweld her sylweddol o ran recriwtio staff, o ran cofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn arbennig. Rydym ni wedi cael ein gwarchod yn gymharol rhag hynny, o gymharu â Lloegr. Bu gostyngiad trychinebus yn nifer y cofrestriadau newydd ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth gan bobl o bob rhan o Ewrop, ac mae'n destun pryder gwirioneddol. Pe baech yn cael y sgwrs hon gyda Choleg Brenhinol y Bydwragedd neu Goleg Brenhinol y Nyrsys neu Unsain, yna bydden nhw'n dweud wrthych am wirionedd y sefyllfa lle mae pobl yn dewis gadael Lloegr, yn arbennig, oherwydd nid yn unig y dewisiadau polisi, ond yr amgylchedd a'r iaith a ddefnyddir i'w disgrifio. Rwy'n falch ein bod yma yng Nghymru—ac yn yr Alban hefyd, a bod yn deg—wedi pwysleisio'n gyson ein bod yn ystyried ein staff yn werthfawr wrth ddymuno cael pobl i aros, a bydd hynny'n parhau.

Fodd bynnag, mae angen i mi nodi bod y cynigion ar gyfer cael trothwy cyflog i ymfudwyr yn weithred o fandaliaeth di-alw-amdani ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae'r cyflog cyfartalog yn y sector gofal cymdeithasol yn llai nag £17,000 yng Nghymru. Byddai cael trothwy cyflog o £30,000 yn drychinebus i ofal cymdeithasol, a byddai'n cael effaith ddifrifol ar y gwasanaeth iechyd. Nid yw hi'n rhy hwyr i Geidwadwyr yn Llywodraeth y DU arddel synnwyr cyffredin a rhoi terfyn ar y cynigion hynny, neu byddant yn gwneud niwed difrifol ac arwyddocaol i wasanaethau iechyd a gofal.

Fe wnaf i ymdrin â'ch sylwadau am feddyginiaethau. O ran lleihau'r cynnydd mewn costau a'r sylwadau yr ydych chi'n eu gwneud am gyflenwadau wrth gefn ychwanegol, mae'r rhain yn drefniadau ar gyfer y DU gyfan sy'n cael eu rhoi ar waith. Nid y Llywodraeth yn gweithredu dros Loegr yn unig yw hyn, ac mae hyn yn rhan o'r cyfrifoldebau sydd gan y DU. Mae'n gyfrifoldeb ar y DU i gyflenwi meddyginiaeth i'r Deyrnas Unedig, ac mae trefniadau'n bod sy'n cynnwys y prif swyddogion meddygol a'r prif swyddogion fferyllol er mwyn goruchwylio sut y byddid yn ymdrin â phrinder o ran gwneud yn siŵr y caiff meddyginiaethau eu dosbarthu'n deg ledled y wlad.

O ran trefniadau trafnidiaeth, unwaith eto, mae hyn yn rhan o gyfrifoldebau'r DU gyfan. Mae tua thraean o'r diwydiant fferyllol wedi gwneud eu trefniadau eu hunain ac wedi gwario arian sylweddol wrth wneud hynny. Mae tua dwy ran o dair yn dibynnu ar y trefniadau trafnidiaeth y mae Llywodraeth y DU yn eu darparu. Ac, o ran hyn, byddaf yn cydnabod y bu gwelliant yn y paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb gan Lywodraeth y DU o fis Mawrth. Byddwch yn cofio ei fod yn chwerthinllyd, fod cwmnïau fferi nad oedd ganddyn nhw fferi wedi ennill contractau, a bod yn rhaid talu arian i gwmnïau fferi ac i Eurotunnel am drefniadau a roddwyd ar waith. Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth y DU mewn gwell sefyllfa nawr. Ar ôl dysgu o'r camgymeriadau a'r gwastraffu arian sylweddol, maen nhw bellach mewn gwell sefyllfa, ond yr her fydd, os bydd dwy ran o dair o'r cyflenwad yn dibynnu ar y trefniadau fferi diweddaraf, yna byddwn yn wynebu'r heriau gwirioneddol a nodir yn nogfen Yellowhammer ynghylch cerbydau nwyddau trwm yn cronni.

Fy mhryder mwyaf ynglŷn â'r cyflenwad meddyginiaethau mewn gwirionedd yw dosbarthu'r nwyddau ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r dystiolaeth a ddarparwyd yn y datganiad gan Yellowhammer ym mis Awst yn ddigon i'ch sobri, ac ni ddylai neb fod yn obeithiol yn ei gylch a gwneud dim ond honni bod yn rhaid inni fwrw ymlaen a gadael heb gytundeb os mai dyna'r cyfan sy'n ein hwynebu, oherwydd mae hwnnw'n nodi'r niwed gwirioneddol a sylweddol a gaiff ei achosi, a'r amhariadau difrifol dros hyd at chwe mis a fyddai'n ein hwynebu ar draws y culfor. Felly, nid yw hwn yn fater dibwys. Mae meddyginiaethau yn eitemau categori 1; byddant yn cael y flaenoriaeth o ran y capasiti sy'n bodoli. Wedyn mae angen inni gael y nwyddau hynny o amgylch y wlad, ac ynghylch hynny, rydym yn cymryd rhan ar lefel swyddogol ac rydym mewn sgyrsiau gweinidogol am yr union faterion hynny.

Rwyf eisiau gwneud y pwynt olaf arall am feddyginiaethau, sef na ddylai'r un ohonom ni fod yn rhy obeithiol ynghylch y prinder posib a achosir. Ceir prinder arferol yn y gwasanaeth iechyd ac fe gaiff hynny ei reoli, mae hynny'n wir. Ond rydym ni mewn cyfnod eithaf rhyfeddol, ac nid ydym ni erioed wedi dewis gwneud rhywbeth yn fwriadol y gwyddom ni y bydd yn peryglu cyflenwadau meddyginiaeth. Er gwaethaf yr holl ddadansoddi sydd gennym ni ar y trefniadau sy'n cael eu rhoi ar waith nawr, os effeithir ar un feddyginiaeth unigol oherwydd Brexit heb gytundeb, yna bydd pob un person sy'n dibynnu ar y feddyginiaeth honno yn edrych arnom ni, yn ddealladwy, ac yn dweud, 'pam wnaethoch chi hyn? Pam wnaethoch chi fynnu bod Brexit yn digwydd os oeddech chi'n gwybod bod hyn yn risg i mi a'm hiechyd? Byddaf yn edrych yn fodlon i fyw llygaid y bobl hynny ac yn dweud, 'rydym ni wedi gwneud y peth iawn wrth godi'r materion hyn.' Mae angen i Aelodau eraill o ba blaid bynnag ystyried yn ofalus eu safbwynt ar Brexit heb gytundeb a'r peryglon a ddaw yn sgil hynny i iechyd a lles pobl yng Nghymru.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:00, 1 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi dynnu eich sylw at y cloc a dweud mai un cwestiwn yn eich datganiad oedd hwnna? Felly, dim ond i chi fod yn ymwybodol. Dai Lloyd.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad diweddaraf ar baratoadau Brexit heb gytundeb ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? Yn y rhan o'ch datganiad ar dudalen 2, rydych yn dweud bod trefniadau tebyg ar gyfer y DU gyfan ar waith ar gyfer radioisotopau, wedi'u cefnogi gan ddulliau cyflym a phwrpasol o gludo nwyddau i feysydd awyr. Yn amlwg, mae radioisotopau meddygol yn bwysig iawn, ac mae hwn yn faes sy'n peri pryder mawr. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod yr isotopau hyn—isotopau ymbelydrol—yn hanfodol ar gyfer ein pecynnau sganio meddygol uwch-dechnoleg yn ein holl ysbytai mawr, a rhai ysbytai nad ydynt mor fawr, a dweud y gwir. Hefyd, mae'r radioisotopau meddygol hyn yn cael eu defnyddio mewn triniaethau canser sylweddol ac yn yr ymchwiliadau amrywiol a wnawn. Felly, maen nhw'n gwbl hanfodol.

Rydych chi hefyd yn gwybod bod gan radioisotopau fel technetiwm a molybdenwm hanner oes o chwe awr yn unig. Mae hanner ohono'n diflannu mewn chwe awr, mewn geiriau eraill. Mae hanner arall yn diflannu mewn chwe awr arall, ac ati. Rydym yn cael y rhain o dir mawr Ewrop ar hyn o bryd. Felly, mae dau gwestiwn yn dilyn yn benodol o ran radioisotopau meddygol. A yw Llywodraeth Cymru wedi cael eglurhad cyfreithiol ynghylch pa un a fydd cyflenwyr yr UE hyd yn oed yn gallu gwerthu'r radioisotopau hyn inni heb gytundeb, gan fod hwn yn cael ei gyfrif yn ddeunydd niwclear? Yr ail gwestiwn yw: a yw Llywodraeth Cymru yn fodlon y bydd cynllun hedfan radioisotopau i faes awyr Coventry i'w dosbarthu er mwyn osgoi'r ciwiau mewn porthladdoedd yn gweithio, ac na fydd unrhyw oedi ar gyfer gwiriadau ar ochr yr UE nac ar ochr y DU, o gofio bod pob awr o oedi'n golygu bod y deunyddiau'n llai tebygol o weithio, yn enwedig yng nghyd-destun ysbytai ymhell i ffwrdd yng Nghymru, a bod llwybrau'r M42, M5 a'r M6 i Gymru'n dioddef tagfeydd yn aml?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:03, 1 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'r sefyllfa o ran radioisotopau a meddyginiaethau eraill wedi bod yn destun pryder mawr imi, ac rwyf wedi sôn am hyn yn y Siambr o'r blaen. Mae'n enghraifft dda o'r cynnyrch yr ydym yn ei ddefnyddio yn y gwasanaeth iechyd mewn ffordd arferol sydd ag oes silff fer, ac felly ni allwn ni stocio popeth. O ran mater gadael Euratom o bosib—nad oes angen inni ei adael, ond dyna'r safbwynt y mae Llywodraeth y DU wedi'i fabwysiadu yn y gorffennol—yna ydy, mae'n bosibl bod hynny'n broblem.

Nid ydym ni wedi cael cyngor cyfreithiol annibynnol, gan ein bod wedi cael sicrwydd uniongyrchol gan gyflenwyr y byddant yn parhau i gyflenwi'r DU. Ond rwy'n cydnabod ei fod yn risg wirioneddol, ac mae aelodau o Gymdeithas Feddygol Prydain yn benodol wedi mynegi pryder ynghylch pa un a ellir darparu'r eitemau hynny'n gyfreithlon. Ond mae'r holl gyflenwyr presennol yn dweud eu bod yn barod i weithio ar drefniadau newydd i hedfan i faes awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr, fel y gwnaethoch chi sôn.

Unwaith eto, mae hyn yn mynd yn ôl at fy mhryderon ynghylch meddyginiaethau a chyflenwadau. Nid wyf yn pryderu cymaint am fynd â nwyddau i fferïau neu i mewn i awyren. Mae'n ymwneud â'u dosbarthu ledled y DU gyfan. Pa un a ydych yn Sir Benfro, Swydd Durham neu Gernyw, mewn gwirionedd, mae hynny'n eithaf pell o faes awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr. Felly, os ydych yn glinigwr yn ysbyty Truro, neu'n glinigwr ym Mangor, byddech yn naturiol yn pryderu: 'a yw hwn yn mynd i gyrraedd mewn pryd?' Rydych chi'n gywir; nid yw chwe awr yn amser hir.

Mae'r cynllun a'r sicrwydd a ddarparwyd yn dweud y dylai hynny fod yn bosib o hyd ac y dylai ddigwydd o hyd. Ond fy mhryder i yw nad ydym ni erioed wedi gwneud hyn o'r blaen. Nid ydym ni erioed wedi ceisio amharu ar y cyflenwad nwyddau i'r Deyrnas Unedig yn fwriadol fel hyn. Dyma ran o'r rheswm pam fy mod i'n dweud bod y cynlluniau hyn yn eu lle, mae elfen o sicrwydd yn eu cylch, ond mae ansicrwydd ynghylch yr effaith wirioneddol. Oherwydd os gwelwn y math o darfu ar drafnidiaeth a ragwelir ac y mae model ar ei gyfer, bydd heriau i'w goresgyn, a gallai hynny gael effaith uniongyrchol ar ofal iechyd a phrofiad pobl ledled y Deyrnas Unedig. Felly rwy'n bell o fod yn obeithiol ac yn bell o fod yn gadarnhaol am y peth, ac nid wyf yn rhannu barn pobl eraill y bydd popeth yn iawn.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:05, 1 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i yn gyntaf ddatgan fy muddiant fel Cadeirydd Grŵp Cynghori ar Ewrop Prif Weinidog Cymru? A chyda hynny, a gaf i ddiolch i bawb yn y grŵp hwnnw ac yn y grwpiau ar gyfer sectorau penodol eraill sydd wedi rhoi o'u hamser i gyfrannu eu harbenigedd wrth inni baratoi ar gyfer Brexit, ac yn arbennig wrth baratoi ar gyfer gadael heb gytundeb?

Dim ond myfyrdod ffeithiol syml yw hwn: y ffaith drist yw bod yr ymdrech enfawr a pharhaus hon, fel yr un y cyfeiriodd y Gweinidog ati sef y llu o weision sifil, swyddogion polisi, arbenigwyr cyfreithiol ac eraill a gafodd eu dargyfeirio, yn troi eu sylw oddi wrth faterion brys eraill sy'n ymwneud â diwygio cymdeithasol ac economaidd. Mae Brexit wedi costio'n ddrud i Gymru a'r DU eisoes, ond mae cost yn parhau ar ffurf yr egni hwnnw a'r cyfleoedd a gollwyd.

Ond a gaf i ofyn i chi, Gweinidog, am unrhyw drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU? Rydych chi wedi egluro, yn gwbl briodol, mai cyfrifoldeb y DU yw'r mater o feddyginiaethau. Ond mae'n ymwneud yn benodol â pharatoi, yn achos gadael heb gytundeb, ar gyfer y mater o allforion cyfochrog o'r DU i'r UE ac yn ehangach dramor, lle y gallem ni weld, yn eithaf rhyfedd, ond gallwn ragweld hyn, y sefyllfa lle mae'r bunt yn colli gwerth yn y cyfnod yn arwain at adael heb gytundeb—ac mae Prif Weinidog y DU ar hyn o bryd yn ein hatgoffa'n gyson, os bydd popeth arall yn methu, byddwn ar y ffordd i adael heb gytundeb—ond mae modd i'r bunt ostwng, ac oherwydd y newid yn y gyfradd gyfnewid, fel y gwelsom ni o'r blaen heb i Brexit ddigwydd o gwbl, bod allforwyr cyfochrog yn manteisio ar y cyfle i ysbeilio'r cyfanwerthwyr, ysbeilio fferyllwyr unigol sydd â thrwyddedau masnachu, ac yn sydyn, sylweddolwn, yn y sefyllfa o hawlio'n gwlad yn ôl, sylweddolwn fod meddyginiaethau i gleifion yma yn y DU, sy'n rhan o baratoadau gadael heb gytundeb, yn rhan o'r paratoi hwnnw i osgoi sefyllfa o brinder, yn cael eu gwerthu dramor.

Nawr, byddai hynny'n hurt, ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw un eisiau gweld hyn. Nid yw'n rhywbeth sydd o fewn gallu Llywodraeth Cymru, rwy'n gwybod, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallai ein sicrhau ei fod yn codi'r pryderon hynny gyda Gweinidogion y DU fel y caiff neges ei hanfon at y masnachwyr cyfochrog hynny na ddylen nhw wneud hynny wrth ragweld Brexit heb gytundeb—na ddylai eu rheidrwydd masnachol fod yn ystyriaeth sy'n bwysicach na rheidrwydd moesol i roi blaenoriaeth i ddinasyddion y DU a chleifion y DU.

A gaf i hefyd ofyn i chi beth yw eich barn ar friff Cymdeithas Feddygol Prydain sydd wedi cael ei anfon, rwy'n credu, at holl Aelodau'r Cynulliad? Yn eu geiriau nhw, mae'n sôn am ganlyniadau trychinebus gadael heb gytundeb ar wasanaethau iechyd—ar ddiogelwch cleifion, ar bwysau'r gaeaf, ar ymchwil feddygol, ar gydnabod cymwysterau proffesiynol, trefniadau gofal iechyd dwyochrog, cydweithredu rhyngwladol ynghylch clefydau prin, y gweithlu iechyd a gofal a mewnfudo, fel soniodd y Gweinidog, a llawer mwy. A yw'r Gweinidog yn ystyried y neges glir iawn hon gan Gymdeithas Feddygol Prydain fel ymgais arall i godi bwganod, neu fel ofnau gwirioneddol y bobl sy'n pryderu'n fwy na dim am eu cleifion, am ein gwasanaethau cymdeithasol a'n gwasanaeth iechyd, am yr hyn a allai ddigwydd os bydd Brexit heb gytundeb? Ac os yw hynny'n wir, a bod y rhain yn ofnau gwirioneddol, onid yw hyn yn rheswm unwaith eto i ddiystyru Brexit heb gytundeb?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:08, 1 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am y ddau brif sylw. Ynghylch yr un sy'n ymwneud â masnachu cyfochrog, rydych chi'n iawn, mae punt wannach yn newid gwahanol gymhellion i symud nwyddau rhwng gwahanol rannau o'r Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n ganlyniad i'r bunt sy'n gwanhau nawr, ac, os ydym yn dal i nesáu at ddiwedd mis Hydref gyda Phrif Weinidog presennol y DU yn bygwth torri'r gyfraith ac yn ceisio gadael heb gytundeb, yna mae'n annhebygol y bydd y bunt yn cryfhau. Mae her yma: yn achos meddyginiaethau wedi'u brandio, mae rheolaethau ar brisiau, ond yn achos rhai generig mae llai o hynny. Mae'n rhywbeth sydd wedi ei grybwyll mewn sgyrsiau rhwng y llywodraethau, ac felly mae ymwybyddiaeth o hynny. Rydym yn dal i gredu mai potensial ac arwyddocâd hyn—mae'n annhebygol o fod yn wir cyn inni adael, ond yr her yw, o bosib, os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, y gallwn ganfod y gallai meddyginiaethau generig, sydd yn nodweddiadol yn llai costus, gynyddu mewn pris mewn gwirionedd, yn enwedig os oes gwiriadau ychwanegol, a rhwystrau ychwanegol ar nwyddau, ac y caiff hynny ei adlewyrchu yn y pris. Felly, mae'n bryder gwirioneddol. Ac o ystyried arwyddocâd y bil cyffuriau, mae hyd yn oed cynnydd bach yn cael effaith arwyddocaol ar gyllid y gwasanaeth iechyd ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig.

Rwy'n cydnabod eich sylw am aelodau Cymdeithas Feddygol Prydain a'r briff y maen nhw wedi'i ddosbarthu. Mae aelodau Cymdeithas Feddygol Prydain wedi mynegi'n glir iawn i mi eu barn a'u pryderon. Dyma realiti'r sefyllfa. Dyma'r hyn sy'n ein hwynebu. Peidiwch â chymryd fy ngair i ynghylch hynny, na gair Cymdeithas Feddygol Prydain, edrychwch ar yr hyn mewn gwirionedd a ddywed dogfen Yellowhammer a gyhoeddwyd. Ni ddylai neb fod yn obeithiol ynghylch hyn. Mae'n cydnabod yr effaith wirioneddol a sylweddol. Mae'r pryderon yn rhai dilys. A dyna pam ein bod ni'n treulio cymaint o amser, egni ac ymdrech yn y Llywodraeth ac yn ein gwasanaethau iechyd a gofal wrth baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod y dylid diystyru hynny gan y byddai'n ganlyniad cwbl annerbyniol i ni i gyd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:10, 1 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.