Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 2 Hydref 2019.
Mae Huw Irranca-Davies yn hyrwyddwr gwych, cadarn ac angerddol dros well gwasanaethau ar reilffordd Maesteg; nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl ynglŷn â hynny. Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod ag ef ac arweinydd yr awdurdod lleol i drafod sut i fwrw ymlaen â'r astudiaeth a gyflwynwyd i fy swyddogion. Maent eisoes yn gweithio gyda'r awdurdod lleol, gyda chyngor Pen-y-bont ar Ogwr, i drafod y canfyddiadau cyn bwrw ymlaen ymhellach â'r gwaith hwn. Ond rwy’n falch iawn o ddweud y bydd y gwasanaeth dydd Sul cyntaf yn cyd-fynd â’r newid cenedlaethol i'r amserlen, sef 15 Rhagfyr. Gallaf roi gwybod i'r Aelodau heddiw y bydd tocynnau ar werth oddeutu wyth wythnos cyn y siwrneiau, sy’n golygu y bydd tocynnau ar gael tua diwedd mis Hydref ar gyfer y gwasanaeth dydd Sul newydd hwnnw.