Mercher, 2 Hydref 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Economi a Threfnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Neil McEvoy.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd? OAQ54424
2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i helpu twf busnesau bach yng Nghymru? OAQ54430
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno trenau newydd ar gyfer y Rhondda fel rhan o'r fasnachfraint reilffyrdd newydd? OAQ54419
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae Llywodraeth Cymru am wella mynediad i'r anabl i'r rheilffyrdd yng Nghymru? OAQ54423
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch manteisio'n llawn ar adeiladu adrannau 5 a 6 o ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465? OAQ54410
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i fusnesau bach yn Sir Benfro? OAQ54404
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i ehangu amlder y gwasanaethau rheilffordd ar lein Maesteg? OAQ54441
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwelliannau arfaethedig i'r seilwaith trafnidiaeth yng nghanolbarth Cymru? OAQ54414
Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i'r Gweinidog Brexit, a dwi'n galw ar Russell George i ofyn y cwestiwn cyntaf. Russell George.
1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am faint o fusnesau sydd wedi ceisio cymorth a chyngor gan borth Brexit Llywodraeth Cymru? OAQ54438
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion yr Undeb Ewropeaidd ynghylch Brexit? OAQ54436
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch Brexit yn dilyn dyfarniad diweddar Goruchaf Lys y DU ynghylch addoediad? OAQ54426
4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Brexit heb gytundeb ar sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru? OAQ54420
5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r gwrthbleidiau mewn perthynas â safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit? OAQ54434
6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gynlluniau paratoadau Brexit Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro? OAQ54405
7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o waith cynllunio awdurdodau lleol a pharatoadau ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb? OAQ54417
8. Pa drafodaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei chynnal gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag amddiffyn buddiannau Cymru yn y broses Brexit wedi 31 Hydref 2019? OAQ54443
9. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynnal ail refferendwm ar Brexit? OAQ54422
10. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ganlyniad achos addoediad y Goruchaf Lys yn dilyn y dyfarniad a basiwyd ar 24 Medi 2019? OAQ54444
11. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch y cynigion sy'n dod i'r amlwg ar gyfer dewis amgen i'r trefniadau wrth gefn, 'backstop', ar gyfer...
12. Pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE? OAQ54409
Yr eitem nesaf fyddai cwestiynau amserol, ond ni chafwyd unrhyw gwestiynau amserol heddiw.
Felly, yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r datganiad cyntaf gan Vaughan Gething.
Cynnig nawr i ethol Aelodau i'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Caroline Jones.
Yr eitem nesaf, felly, yw addroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, adroddiad 02-19. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jayne Bryant.
Yr eitem nesaf yw adroddiad Pwyllgor Safonau Ymddygiad eto, a'r adroddiad hwnnw yw adroddiad 03-19. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jayne Bryant.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl gan Aelod unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(v) ar seilwaith diwydiannol hanesyddol. Dwi'n galw ar David Rees i gyflwyno'r cynnig.
Y ddadl nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ddeintyddiaeth yng Nghymru, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y...
Sy'n dod â ni yna at y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar gefnogi a hybu'r Gymraeg. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Bethan Sayed.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 5 yn enw Caroline Jones. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau...
Felly, down at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, bwriadaf symud ymlaen—[Torri ar draws.] Rydych am ganu'r gloch. O'r gorau. Os gall tri o bobl...
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer—[Torri ar draws.] Os ydych chi'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda. Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf...
A wnaiff y Gweinidog ddarparu datganiad am wasanaethau rheilffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau bysiau yng nghymoedd de Cymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia