Gwasanaethau Rheilffordd ar Lein Maesteg

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:15, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, dylai'r math hwnnw o gyfrifoldeb fod yn nwylo Trafnidiaeth Cymru fel partner cyflenwi, ond rwy'n falch o ddweud bod Trafnidiaeth Cymru, o ran dolen basio rheilffordd Llynfi, eisoes yn cynnal asesiad technegol cynnar ynghylch ailddefnyddio'r ddolen basio benodol honno, ac yn ychwanegol at hynny, gwelliannau yng ngorsaf Ton-du. Ond rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod i ystyried gwasanaethau ychwanegol a gwelliannau seilwaith y gellid eu gwneud yn ei hardal.