Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 2 Hydref 2019.
Hoffwn fwrw ymlaen â'r prosiect hwn cyn gynted â phosibl. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am fynychu cyfarfod diweddar lle y trafodwyd Pont ar Ddyfi a lle y gallodd fy swyddogion ddarparu sesiwn friffio i'r Aelodau ac i'r awdurdod lleol? Byddaf yn sicr yn gofyn i swyddogion archwilio potensial monitro gwell ar y bont, a bydd angen cytuno ar amcangyfrif cost diwygiedig ar gyfer y cynllun adeiladu gyda'r contractwr cynnar, gan y gwnaed sawl newid i gwmpas y prosiect yn ystod y cyfnod datblygu. Ond pan fyddaf wedi cael syniad o'r costau terfynol, byddaf mewn sefyllfa i benderfynu a ddylid cyhoeddi'r gorchmynion ar gyfer y cynllun hwn ai peidio. Hoffwn pe bai'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo cyn gynted â phosibl, ac rwy'n rhagweld y byddaf mewn sefyllfa i allu gwneud penderfyniad erbyn diwedd eleni.