10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canlyniadau TGAU a Safon Uwch

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:47, 2 Hydref 2019

Dwi'n symud y gwelliannau. Diolch. Rhaid imi ddweud roeddwn i'n hynod o siomedig o ddarllen cynnig y Torïaid sydd am ganlyniadau TGAU yr haf yma yn bennaf. Roeddwn i'n fwy siomedig byth o weld gwelliant y Llywodraeth, sydd eto yn canolbwyntio ar ganlyniadau TGAU a safon uwch. Mae cynnig y Torïaid yn rhoi sbin negyddol i'r canlyniadau, ac mae cynnig y Llywodraeth yn rhoi sbin cadarnhaol i'r un canlyniadau. Mae unrhyw un sydd yn ymwneud â'r byd addysg yn gwybod yn iawn na ellir gwneud cymariaethau credadwy, ystyrlon drwy edrych ar un set o ganlyniadau amrwd o un flwyddyn a'u gosod nhw yn erbyn set arall. Fel un sydd wedi bod yn gadeirydd llywodraethwyr, yn aelod cabinet addysg ac yn gadeirydd cyd-bwyllgor GwE, dwi'n gwybod bod hyn yn ffôl ac yn ddi-werth, ac mae pawb yn y sector yn gwybod hynny hefyd.

Mae angen edrych ar gyflawniad dros dreigl amser, ac hyd yn oed o drio gwneud cymariaethau, mae yna gymaint wedi newid ers y flwyddyn mae'r Torïaid wedi dewis, sef 2007. Mae'r manylebau eu hunain wedi newid, mae patrymau mynediad ar gyfer arholiadau wedi newid, mae pa radd sy'n cyfrif tuag at y mesurau perfformiad—ac yn y blaen, ac yn y blaen. Yr hyn sy'n bwysig ydy ein bod ni'n symud i ffwrdd oddi wrth system atebolrwydd sy'n gyrru'r system addysg i gyfeiriadau negyddol o safbwynt dysgwyr—er enghraifft, system sy'n annog canolbwyntio ar y disgyblion hynny sydd ar y ffin rhwng C a D ar draul y rheini sydd uwchlaw neu oddi tani hi, symud i ffwrdd o system sy'n rhoi pwysau ar ddysgwyr i sefyll arholiadau dro ar ôl tro er mwyn cael canlyniadau gwell, neu efallai hyd yn oed peidio â chaniatáu i rai disgyblion sefyll arholiad er mwyn osgoi cael graddau is ac yn y blaen.

Dwi'n gweld y Gweinidog yn ysgwyd ei phen. Dwi'n gwybod ei bod hi'n cytuno efo hyn; mae angen symud i ffwrdd o system sy'n trin disgyblion fel data yn hytrach na phobl ac yn gwthio ysgolion i weithredu fel ffatrïoedd yn hytrach na sefydliadau addysgol. Ond yn anffodus, dyna'n union mae'r drafodaeth yma yn ei wneud. Mae'n canolbwyntio ar y gwendidau yn y system. Mae angen symud i ffwrdd hefyd o system sydd wedi cynyddu'r llwyth gwaith a straen ar athrawon yn aruthrol ac wedi rhoi pwysau a straen ar ddisgyblion. Dwi'n croesawu'r symudiad gan y Llywodraeth at system lle mae'r pwyslais ar asesu ar gyfer dysgu—hynny yw, asesu sy'n rhoi adborth gwerthfawr i'r athro a'r dysgwr, yn hytrach nag at bwrpas atebolrwydd allanol, ac mae hynny'n gam arwyddocaol a phositif. Dyna pam roeddwn i'n siomedig o weld y trywydd y mae'r gwelliant yn mynd â ni iddo fo.

Mae ein gwelliannau ni yn tanlinellu beth sydd angen ei wneud er mwyn codi safonau. Ydyn, mae disgyblion yn gadael hanner ysgolion uwchradd Cymru heb gyrraedd eu llawn botensial. Oes, mae angen newidiadau ar frys. Dyna'r ffaith nad oes yna ddim ffordd o roi sbin arno fo. Dyna sydd eisiau inni hoelio sylw arno fo. Y newid mwyaf sydd ei angen er mwyn codi safonau yw sicrhau lefelau cyllido digonol, sy'n caniatáu lefelau staffio priodol, sy'n sicrhau y caiff disgyblion gefnogaeth ychwanegol ac ymyraethau ataliol yn ôl yr angen.

Mi ges i lythyr gan gorff llywodraethwyr un o ysgolion uwchradd Gwynedd ddoe diwethaf. Dyma ichi gri o'r galon. Dwi'n mynd i ddyfynnu o'r llythyr achos mae o'n dweud yn lot gwell na fedraf i beth yw'r broblem: 'Ysgrifennaf i fynegi ein pryderon dwfn ac anfodlonrwydd am gyllid annigonol parhaus i ysgolion. Rydym yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng cyllido hwn. Credwn fod yn rhaid cael newid ar fyrder a rhoi cyllid priodol sydd ei angen ar ein hysgolion, gweithwyr addysg proffesiynol a disgyblion. Mae dyfodol ein plant yn y fantol. Un cyfle sydd gan ddisgyblion i fynd drwy'r system addysg, a thrwy dorri cyllid mae'r Llywodraeth yn methu ein disgyblion. Golyga toriadau ariannol dros y blynyddoedd fod staff wedi colli eu swyddi, ac mae'n debyg y bydd angen torri mwy yn y dyfodol. Mae effaith diswyddiadau yn golygu llwyth gwaith cynyddol ar ein staff presennol, ac effeithiau eraill cyllid annigonol yw bod llai o adnoddau i'r disgyblion, llai o ddewis mewn pynciau ysgol, meintiau dosbarth mwy, llai o gefnogaeth ychwanegol i blant sydd ei hangen, llai o gefnogaeth i deuluoedd a rhieni, a llai o gyfleoedd i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi. Ni all hyn barhau, a ni allwn adael i hyn fynd heb ei herio.'

Mae'r llythyr yn egluro'r sefyllfa yn glir iawn. Felly, cefnogwch welliannau Plaid Cymru. Peidiwch â chael eich tynnu i mewn i drafodaeth am ganlyniadau TGAU. Wynebwch y realiti a rhowch mwy o gyllid i'n hysgolion ni.