Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:21, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n siŵr nad yw'r Aelod yn ceisio awgrymu na ddylai Llywodraeth Cymru fanteisio ar unrhyw gyfleoedd i ddadlau dros bobl Cymru a chynrychioli eu buddiannau mewn unrhyw gyd-destun y gallant. Mae mynd i Frwsel a chynrychioli barn Llywodraeth Cymru a Chymru yn rhoi mantais wirioneddol i ni. Fe fydd yn gwybod bod mecanwaith Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) yn bodoli i roi’r gallu i Lywodraethau datganoledig gael rhywfaint o oruchwyliaeth dros y broses negodi. Fe fydd hefyd yn gwybod, o ddilyn y trafodion yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf, fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu na fyddant yn rhannu'r papurau technegol y maent yn eu rhannu â sefydliadau'r UE gyda ni, sy'n golygu nad oes gennym gymaint o wybodaeth am y trafodaethau hynny ag y byddai'n dymuno, rwy'n siŵr, fel y gallwn drafod hynny yn y Siambr yma i'r graddau priodol. Mae hefyd yn bwysig mynd yno er mwyn i ni glywed gan sefydliadau'r UE yn uniongyrchol beth yw eu pryderon, ond rwyf am ddweud yn glir iawn wrth yr Aelod ein bod yn ofalus iawn nad ydym yn tanseilio safbwynt Llywodraeth y DU mewn unrhyw ffordd, ond byddwn bob amser yn achub ar y cyfle i ddadlau dros bobl Cymru a'u buddiannau.