Ail Refferendwm ar Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:50, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Rydym wedi dweud yn glir iawn fel plaid, oni wnaethom, mai ein safbwynt ni yw y dylid rhoi'r mater hwn yn ôl i'r bobl. Pan fyddwn yn siarad â phleidleiswyr Cymreig yma yng Nghymru, byddwn yn argymell eu bod yn pleidleisio dros aros. Dyna y gwnaethom ei argymell yn 2016. Ni lwyddasom i berswadio pobl bryd hynny, ond credaf ei bod yn amlwg drwy'r hyn sydd wedi digwydd dros y tair blynedd ers hynny a'r ffordd ddi-hid y mae'r bobl a oedd o blaid gadael wedi torri'r addewidion a wnaed i bobl Cymru yn y refferendwm, y byddwn yn parhau i ddadlau dros 'aros'. Rydym yn credu, fel y gwn y mae yntau hefyd yn credu'n gryf, y byddai buddiannau Cymru'n cael eu gwasanaethu orau fel rhan o'r Undeb Ewropeaidd.