Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 2 Hydref 2019.
Wel, diolch i'r Aelod am dynnu sylw at yr agwedd benodol honno, gan fod dyfarniad y Goruchaf Lys yn cyfeirio'n benodol at waith y Cynulliad Cenedlaethol yn yr ymresymiad a roddodd yr Arglwyddes Hale yn yr hyn a oedd yn ddyfarniad pwysig. Mae'n fy synnu bod rhai Aelodau yn y Siambr hon yn dal i ymddangos fel pe baent o'r farn nad oedd ymyrryd yn achos y Goruchaf Lys yn weithred briodol. Buaswn yn atgoffa Aelodau mai'r rhesymeg dros wneud hynny yw ein bod ni yn y Siambr hon ac ar bwyllgorau'r Cynulliad hwn wedi treulio amser yn derbyn cynigion, yn dadlau, yn pasio is-ddeddfwriaeth sy'n dibynnu ar allu Senedd y DU i ddeddfu mewn perthynas â Brexit, ac effaith ymgais Prif Weinidog y DU i ohirio'r Senedd oedd ei hatal rhag eistedd i gwblhau ei gwaith. Felly, roedd gennym ddiddordeb uniongyrchol iawn yng nghanlyniad y dyfarniad hwnnw, ac felly rwy'n bendant yn croesawu eglurder penderfyniad unfrydol yr 11 ustus a'r effaith fuddiol a gaiff hynny ar ein gwaith yma yn y Cynulliad. Fe fydd hi'n gwybod y byddai addoedi Senedd y DU, pe bai hynny wedi digwydd mewn gwirionedd, wedi achosi methiant deddfwriaeth sylfaenol yr oedd yn ofynnol inni ei phasio er mwyn amddiffyn buddiannau Cymru. O ganlyniad i'r dyfarniad hwnnw, gwyddom bellach nid yn unig fod y weithred yn anghyfreithlon, ond i bob pwrpas, na chafodd Senedd y DU ei haddoedi mewn gwirionedd.