Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 2 Hydref 2019.
Wrth gwrs, mae'r angen i Lywodraeth y DU geisio cytundeb amgen yn deillio o'r ffaith bod Llafur wedi pleidleisio yn erbyn y cytundeb blaenorol dair gwaith yn Nhŷ’r Cyffredin. Sut yr ymatebwch i'r datganiadau a wnaed yn gynharach y mis hwn gan gyfarwyddwr masnach de môr Iwerddon ar ran Stena Line, awdurdod porthladd Caergybi, sef Mr Davies, a ddywedodd, pan ofynnwyd iddo a fydd tarfu, 'Bydd, credaf y bydd tarfu am y diwrnod neu ddau cyntaf oherwydd ansicrwydd, ond cyfnod byr iawn fydd hwnnw. Nid wyf yn gweld unrhyw broblemau o ran llif y traffig drwy Gaergybi fel y mae pethau, a chyda'r cynlluniau ar waith. Mae cynllun argyfwng gan Lywodraeth Cymru ar yr A55—ni chredaf y bydd yn cael ei ddefnyddio.'?