5. Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Adroddiad 02-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 3:30, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch yn arbennig i Leanne am ei geiriau hefyd. Rwy'n credu bod rhai o'r cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth weithredu cyfundrefn safonau yn amlwg o rai o'r safbwyntiau a glywsom heddiw. Felly, rwy'n credu y gallai fod yn werth nodi ychydig o ffeithiau am y system i ddechrau. Penodir comisiynydd safonau annibynnol drwy broses benodi agored a thryloyw. Mae'r comisiynydd yn defnyddio'r cod ymddygiad a'r canllawiau ategol, gan gynnwys y polisi urddas a pharch y pleidleisiodd y Cynulliad cyfan arno, i ymchwilio i'r cwynion. Os yw'n canfod bod cwyn wedi torri'r cod, mae'r gŵyn honno, ac adroddiad y comisiynydd ar pam y canfu fod y cod wedi'i dorri, yn cael ei ddwyn gerbron pwyllgor trawsbleidiol. Rôl y pwyllgor yw ystyried adroddiad y comisiynydd a phenderfynu os dylid gosod sancsiwn, ac os felly, pa sancsiwn i'w osod.

Mae rôl y pwyllgor yn un led-farnwrol. Ni allwn, ac ni wnawn, wneud penderfyniadau pleidiol-wleidyddol eu natur. Rydym wedi cael y cyfrifoldeb gan y Cynulliad hwn i gynnal y safonau uchaf, ac rydym i gyd yn hynod ymwybodol o hynny. Mae gennyf fi, a'r pwyllgor, lawer iawn o gydymdeimlad â'r Aelod yn yr achos hwn. Mae'r trolio, bwlio, gwreig-gasineb, hiliaeth, homoffobia ac ati sy'n digwydd ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn resynus. Mae gwleidyddion a ffigurau cyhoeddus eraill yn aml yn cael eu gweld fel rhai y mae'n iawn eu targedu. Mae gennym fwy i'w wneud i gefnogi'r Aelodau yn hyn o beth. Mae gennyf barch mawr tuag at yr Aelod, ac nid oes amheuaeth yn fy meddwl i y bydd yr Aelod yn parhau i wrthwynebu gwreig-gasineb, hiliaeth, homoffobia, bwlio a throlio, fel y gwnaiff bob amser, ac mae bob amser yn gwneud hynny mewn ffordd gadarn. Nid problem gyda'r gŵyn yw hon. Mae'r pwyllgor yn unfryd fod lefel y gamdriniaeth y mae'r Aelod wedi'i hwynebu yn hollol annerbyniol. Mae'r rheolau sydd gennym yn sicrhau ein bod yn cynnal y safonau uchel hynny mewn perthynas â'r iaith a ddefnyddiwn. Roedd penderfyniad y pwyllgor yn seiliedig ar ddefnyddio gair—ni waeth pa mor fach ydyw yn llygaid yr Aelod neu bobl eraill—sy'n torri'r cod ymddygiad a'r polisi urddas a pharch. Os caf dynnu sylw—credaf fod Lynne wedi crybwyll mater yn ei chyfraniad yn ymwneud ag un o'r Aelodau yma, Gareth Bennett, a fu'n destun cwyn. Ac yn yr achos hwnnw, ataliwyd yr Aelod am wythnos heb dâl. Mae'r iaith a'r dadlau yn y byd gwleidyddol yn wenwynig ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i ni gynnal ein safonau ein hunain fel nad ydym yn gostwng ein hunain. Dyma'r safonau uchel rydym wedi'u gosod i ni'n hunain yn ein rheolau.