Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 2 Hydref 2019.
Mae'r unig gwestiwn sydd gennyf yn ymwneud â'r ffaith bod y pwyllgor, o ran y weithdrefn, yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad hwn yn yr un modd ag y byddai unrhyw bwyllgor arall yn ei wneud, er mwyn i'r Cynulliad cyfan ddod i benderfyniad. Does bosibl nad oes yn rhaid i chi gydnabod bod gan bob un ohonom hawl i bleidleisio pa ffordd bynnag y dymunwn bleidleisio ar hyn.