Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 2 Hydref 2019.
Mae newid i'r system gyfan eisoes ar y gweill ym maes deintyddiaeth yng Nghymru. Mae arnom angen timau clinigol mewn byrddau iechyd i gytuno ar yr hyn y dylid ei gyflawni a sut i fesur rhagoriaeth ym maes deintyddiaeth gofal sylfaenol. Mae dulliau newydd o gontractio gyda ffyrdd mwy ystyrlon o fesur eisoes yn caniatáu i ni ddeall yn well beth yw anghenion cleifion, ansawdd lefel practis, gweithlu tîm a mynediad. Mae hyn yn golygu mwy na gwneud ychydig o newidiadau bach i'r contract. Mae deintyddion, gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol, byrddau iechyd ac academyddion yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni a sicrhau trawsnewid yn unol â 'Cymru iachach' drwy ddileu datgymhelliad ariannol fel y gall timau deintyddol ganolbwyntio ar atal a gwneud defnydd o sgiliau'r tîm cyfan.
Mae'r rhaglen ddiwygio deintyddol yn canolbwyntio ar ansawdd, atal a mynediad. O'r mis hwn ymlaen, mae 36 o bractisau eraill yn ymuno â'r 94 o bractisau deintyddol sy'n cymryd rhan yn y broses o ddiwygio contractau. Mae hynny'n golygu bod oddeutu traean o'r holl bractisau deintyddol yng Nghymru yn cymryd rhan. I gyferbynnu â hynny, yn Lloegr, ychydig dros 1 y cant o bractisau deintyddol sy'n cymryd rhan yn eu rhaglen ddiwygio contractau. Fodd bynnag, rydym am weld y newid yn cyflymu ymhellach er mwyn i fwy o bractisau deintyddol allu gweithio mewn ffyrdd newydd. Rwy'n disgwyl i dros hanner yr holl bractisau fod yn rhan o'r rhaglen ddiwygio erbyn mis Hydref 2020, gan arwain at gyflwyno'r diwygiadau contract yn llawn yn 2021. Bydd y set ehangach o fesurau monitro a dileu unedau gweithgarwch deintyddol gwerth isel o dan y diwygiadau contract yn helpu i leihau'r angen i fyrddau iechyd adennill cyllid gan gontractwyr deintyddol. Rwyf wedi gofyn i'r byrddau iechyd gyflwyno adroddiadau ar unrhyw adnoddau a adenillir, a disgwyliaf iddynt ddarparu cymorth drwy gydol y flwyddyn i ddarparwyr deintyddol sy'n ei chael hi'n anodd cyrraedd targedau.
Gwyddom fod recriwtio a chadw staff yn y gweithlu deintyddol yn achosi anhawster mewn sawl ardal yng Nghymru. Mae mwy i'w wneud i fynd i'r afael â'r materion aml-ffactor dan sylw. Felly, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn edrych ar y niferoedd sy'n hyfforddi, ffyrdd o helpu i ddatblygu'r gweithlu, ac maent yn ystyried modelau amgen ar gyfer y gweithlu i gefnogi'r ddarpariaeth, gwella recriwtio a chymell staff i aros yn y proffesiwn ar ôl hyfforddi. Yn ogystal, bydd Cyfadran Cymru Gyfan ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol sy'n cael ei sefydlu ym Mhrifysgol Bangor, ac y disgwyliaf ymweld â hi yn y flwyddyn newydd, yn cyfrannu at gyfleoedd gyrfaol i'r gweithlu gofal deintyddol proffesiynol.
Mae'r system reoli e-atgyfeirio deintyddol a grybwyllwyd ddoe yn cwmpasu pob arbenigedd deintyddol, gan gynnwys orthodonteg, ac fe'i cyflwynwyd yn llwyddiannus yn genedlaethol. Ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i weithredu system gwbl electronig ar gyfer pob atgyfeiriad deintyddol ym mhob arbenigedd clinigol deintyddol. Mae hynny'n golygu bellach y bydd y byrddau iechyd yn gwybod beth yw ffynhonnell, cymhlethdod, a nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer arbenigeddau deintyddol. Yn ei dro, mae hynny'n cefnogi gwaith ar gynllunio'r gweithlu ar sail tystiolaeth ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer ailgynllunio gwasanaethau, gan symud allan o ofal eilaidd ar gyfer triniaethau y gellid ac y dylid eu darparu mewn gofal sylfaenol. Ac wrth gwrs, bythefnos yn ôl, buom yn dathlu dengmlwyddiant Cynllun Gwên, ein rhaglen wella lefel poblogaeth ar iechyd y geg i blant. Mae hon wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at leihau lefelau clefyd deintyddol, ac mae'n parhau i wneud hynny, ac rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi'r rhaglen.
Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud. Byddaf yn falch o ymateb eto i'r pwyllgor gydag ystod o'r pwyntiau a wnaed nad oes amser i ymateb iddynt heddiw, ond cymerwyd camau sylweddol eisoes i ddiwygio gwasanaethau deintyddol a gwella iechyd y geg i'r aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Rwy'n gobeithio y bydd y rhaglen eglur o ddiwygiadau i'r contract deintyddol y cynlluniais iddi gael ei chwblhau erbyn 2021 yn rhoi'r sicrwydd y mae'r Aelodau yn chwilio amdano. Ond byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein cynnydd wrth ymdrin â'r holl argymhellion a wneir yn yr adroddiad.