Perfformiad Trafnidiaeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 8 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:23, 8 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Bydd yn ymwybodol bod 24 y cant o boblogaeth y Canolbarth a'r Gorllewin dros 65 oed a bod pobl hŷn yn arbennig yn dibynnu mwy ar wahanol fathau o gludiant cyhoeddus nag eraill i fynd o le i le. Bydd yn ymwybodol hefyd o lanast y wefan tocynnau bysiau rhatach ar gyfer y cynllun adnewyddu, a dorrodd ar 11 Medi a chymerwyd pythefnos iddi fod yn weithredol eto. A wnaiff ef roi sicrwydd i ni y bydd pawb sydd am adnewyddu tocyn bws yn gallu gwneud hynny cyn diwedd y flwyddyn? Ac o gofio bod gorlenwi ar drenau ac oedi a chanslo i'w weld mor aml ar y newyddion, a all ef ein sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn addas i'w ddiben mewn gwirionedd?