Mawrth, 8 Hydref 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Huw Irranca-Davies.
1. Pa ddefnydd a wneir o gynulliadau dinasyddion i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd a gafodd ei ddatgan gan Lywodraeth Cymru? OAQ54463
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau tocynnau ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru? OAQ54477
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac arweinydd yr wrthblaid yn gyntaf, Paul Davies.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y broses ddisgyblu ar gyfer uwch-swyddogion mewn llywodraeth leol? OAQ54487
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reolau lobïo Llywodraeth Cymru? OAQ54503
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr achosion o glefyd y llengfilwyr yn y Barri dros y 12 mis diwethaf? OAQ54496
6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant fferyllol? OAQ54475
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros ysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe? OAQ54502
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau diweddar gyda Trafnidiaeth Cymru ar berfformiad ei wasanaethau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ54468
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells.
1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen cyfleusterau cymunedol? OAQ54469
2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector gwirfoddol yn Sir Benfro? OAQ54467
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu hawliau dynol pobl Cymru yn y system cyfiawnder troseddol? OAQ54486
4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am bolisïau cyfiawnder Llywodraeth Cymru? OAQ54472
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog gwirfoddoli ymysg pobl ifanc yn sir Gaerfyrddin? OAQ54480
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad, Rebecca Evans.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a dwi'n galw'r Gweinidog i wneud...
Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar ddigartrefedd. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.
Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar deithio rhatach, a galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Eitem 6 ar yr agenda yw Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2019, a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y...
Eitem 7 ar ein hagenda yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i gynnig y cynnig—Dafydd...
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia