Y Sector Gwirfoddol yn Sir Benfro

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 8 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:30, 8 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb yna. Cefais y fraint yn ddiweddar o fynd i ddiwrnod agored elusen leol o'r enw HOPE, yn Neyland, yn fy etholaeth i, sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol a chyflyrau niwrolegol eraill. Mae hyfywedd y ganolfan arbennig hon yn dibynnu yn bennaf ar y gefnogaeth a gaiff gan bobl leol, o ran rhoddion, ac o ran cymorth gwirfoddol i gleifion a'u teuluoedd. Dirprwy Weinidog, mae'r ganolfan hon yn achubiaeth i lawer o gleifion lleol sydd â chyflyrau cymhleth, ac o ystyried ei heffaith enfawr yn lleol, a allwch chi ddweud wrthym pa gymorth penodol y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i elusennau llai fel hyn i ddiogelu eu cynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol?