Hawliau Dynol

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 8 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:32, 8 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Dirprwy Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cawsom ni ddadl am roi'r bleidlais i garcharorion, y gwnes i ei wrthwynebu a chefais fy meirniadu oherwydd hynny. Fy mhwynt i yn y ddadl honno oedd y dylem ni fod yn canolbwyntio ar adsefydlu a chymorth, a bod llawer gormod o gyn-droseddwyr yn cael eu rhyddhau heb dai nac unrhyw fecanwaith cymorth yn unol â'u hanghenion, sydd yn aml yn ymwneud â materion iechyd meddwl. Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod hyn yn mynd yn groes i hawliau dynol cyn-droseddwyr, ac a wnaiff eich Llywodraeth sicrhau y bydd pob cyn-droseddwr yn cael llety, cymorth a lles pan gânt eu rhyddhau, ac nid dim ond bag du sy'n cynnwys ychydig o eiddo pan fyddan nhw'n gadael?