Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 8 Hydref 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle yma i gyflwyno'r cynnig yma o gymhwysedd deddfwriaethol, a diolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a hefyd i'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau am eu hadroddiadau positif ar y rheoliadau yma, ac yn arbennig ar y cynigion maen nhw wedi eu hystyried.
Cafodd Birmingham, fel y gwyddoch chi, yr hawl i gynnal y gemau rhyngwladol yn 2022, ac, er mwyn cynnal y gemau'n llwyddiannus, mae Senedd San Steffan yn y broses o basio Bil Gemau Cymanwlad Birmingham, sy'n ymdrin â'r gemau a'r dibenion cysylltiedig ac yn creu trosedd dros dro am dowtio tocynnau i'r gemau.
Dyna ydy diben y cynnig yma sydd gyda ni ger ein bron: i ganiatáu ystyriaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddeddfu mewn meysydd sydd yn cael eu hystyried yn gymhwysedd i'r Cynulliad hwn ac i Lywodraeth Cymru. Ym marn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mater i Lywodraeth Cymru yw'r ddarpariaeth ynglŷn â thocynnau yn y Bil. Amcan y ddarpariaeth yma ydy diogelu brand ac enw da'r gemau a sicrhau bod tocynnau yn fforddiadwy ac yn hygyrch, ac atal troseddu. Felly, mae angen ein cydsyniad ni, oherwydd, fel y dywedais i, fod y Bil yn dod o dan gymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol, ac, er bod diogelu'r defnyddiwr yn fater cadw o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, Atodlen 7A, pwrpas y darpariaethau yma ydy diogelu brand ac enw da meysydd chwaraeon yng Nghymru, ac mae hyn yn helpu hyrwyddo twristiaeth a'r economi, ac mae'r rheini yn faterion datganoledig.
A hefyd fe allai'r darpariaethau yn y Bil fod yn faterion i'r Cynulliad Cenedlaethol am eu bod nhw'n ymwneud â chyfrifoldebau awdurdodau lleol. Felly, rydw i yn gofyn i'r Cynulliad i basio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma er mwyn inni sicrhau ei bod hi yn briodol—ym marn Llywodraeth Cymru—i'r ddarpariaeth yn y Bil gael ei delio â hi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac felly, drwy ymdrin â'r drosedd dowtio tocynnau, er enghraifft, ym Mil y Deyrnas Unedig, mae hynny yn golygu y daw y drosedd yma i rym yng Nghymru a Lloegr ar yr un pryd. Diolch yn fawr ichi am eich gwrandawiad.