Polisi Ffracio

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 9 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 1:30, 9 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o glywed hynny, Weinidog, gan fy mod wedi clywed bod yna bryderon gan rai grwpiau amgylcheddol y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi lleihau ei gwrthwynebiad yn sgil y cyhoeddiad y bydd Ineos yn agor ffatri yng Nghymru. Wrth gwrs, prif ddiddordeb Ineos ar dir mawr Prydain yw echdynnu nwy siâl. Mae buddsoddiad Ineos ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer adeiladu ei gerbyd 4x4 newydd, wrth gwrs, i'w groesawu'n fawr, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn teimlo'n dawelach eu meddwl yn awr oherwydd eich ateb na fydd yn effeithio ar bolisi ffracio Llywodraeth Cymru. Nawr, nid ffracio yw'r unig ddull o echdynnu petrolewm sy'n peri pryder, fodd bynnag. Yn ddiweddar, gwnaed cais i gynnal profion seismig ym Mae Ceredigion, i ddod o hyd i leoliadau posibl ar gyfer drilio. Ataliwyd y drwydded honno, ond nid yw hynny'n atal ceisiadau tebyg rhag cael eu gwneud yn y dyfodol. Felly, a allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y camau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i osod gwaharddiad effeithiol ar brofion seismig, yn union fel y gwnaethoch gyda ffracio?