Mercher, 9 Hydref 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
A'r eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, a dwi'n galw'r cwestiwn cyntaf—Delyth Jewell.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ffracio? OAQ54464
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli argaeau yng nghanolbarth Cymru? OAQ54459
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Y cwestiwn cyntaf gan lefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
3. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cadwraeth tir ffermio yng Nghymru? OAQ54489
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi ffermio? OAQ54478
5. Sut mae'r argyfwng yn yr hinsawdd, a gafodd ei ddatgan ym mis Ebrill 2019, yn ail-lunio cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwydiant bwyd Cymru? OAQ54492
6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynglŷn â materion ynni sydd wedi'u cynnwys yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft...
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad Cyfoeth Naturiol Cymru? OAQ54476
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ynghylch mynd i'r afael â llygredd aer ar hyd yr A470? OAQ54495
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau i gefnogi awdurdodau lleol a chymunedau lleol i chwarae mwy o ran mewn prosiectau ynni? OAQ54460
10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ailblannu coed yng Nghwm Afan ar ôl cwympo coed yn yr ardal? OAQ54499
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllid i Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2020-21? OAQ54481
2. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau'r arbedion ariannol sydd wedi'u colli o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i gynigion i leihau nifer y cynghorau yng Nghymru? OAQ54494
Galwaf yn awr ar y llefarwyr i holi'r Gweinidog, a'r cyntaf y prynhawn yma yw llefarydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd gwasanaethau archwilio a rheoleiddio awdurdodau lleol? OAQ54483
4. Sut mae polisi cynllunio ar gyfer tai newydd yn ystyried darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ54488
5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau diogelwch tân ar gyfadeiladau preswyl yng Nghanol De Cymru? OAQ54490
6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwella cydweithio rhwng y sectorau tai ac iechyd? OAQ54498
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau amodau gwaith priodol mewn cwmnïau preifat sy'n darparu gwasanaethau ar ran llywodraeth leol? OAQ54471
Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol, ac mae dau wedi'u dewis. Daw'r cwestiwn amserol cyntaf, sydd i'w ateb gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gan Dawn Bowden.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gwymp Triumph Furniture ym Merthyr Tudful? 349
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddiad Marco Cable Management eu bod yn cau eu safle ar Ynys Môn? 347
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r cyntaf o'r tri y prynhawn yma yw Huw Irranca-Davies.
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal yng ngoleuni'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 19 Medi 2019 ynghylch diogelwch adeiladau?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar blannu coed?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia