Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 9 Hydref 2019.
Diolch, Weinidog, ac rwy'n falch o glywed yr ateb hwnnw. Mae pryder gwirioneddol yn bodoli, ac wedi bodoli ers peth amser bellach, ynghylch rheolau a chytundebau gweithredu'r ddau argae, gan fod dŵr wedi bod yn gorlifo dros y ddau argae, fel y crybwyllodd y ddau ohonom, ac mae hyn wedi achosi llifogydd mawr mewn rhannau helaeth o fy etholaeth. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallem hwyluso adolygiad o'r rheolau a'r cytundeb gweithredu, a phe gallech gysylltu â'ch swyddogion, Cyfoeth Naturiol Cymru, a chydag Asiantaeth yr Amgylchedd a Severn Trent Water, i roi'r adolygiad hwnnw ar waith cyn gynted â phosibl, oherwydd rwy'n credu ein bod wedi cyrraedd pwynt yn awr lle mae tirfeddianwyr yn teimlo'n ddig dros ben.