Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 9 Hydref 2019.
Mae'r prosiect O'r Mynydd i'r Môr yng nghanolbarth Cymru wedi'i gyhuddo o adlewyrchu ffocws y partneriaid ar yr amgylchedd a rhoi llawer llai o sylw i agweddau diwylliannol, ieithyddol, cymdeithasol ac economaidd datblygu cynaliadwy, sydd, wrth gwrs, yn sylfaenol i ddatblygiad y gymuned gyfan. Weinidog, beth y gallwch ei wneud i sicrhau, pan sefydlir prosiectau o'r fath yn y dyfodol, y gwneir gwaith ymgynghori cymunedol gwell cyn y caniateir i unrhyw brosiect gael ei roi ar waith?