Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 9 Hydref 2019.
Mae adroddiad pwyllgor craffu Cyngor Sir Ddinbych ar y tân ar fynydd Llantysilio yn codi nifer o gwestiynau a gyfeiriwyd at nifer o wahanol asiantaethau. Tybed a allech ddweud wrthyf pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu o'r digwyddiad hwn, ac yn enwedig o ystyried bod nifer o'r argymhellion yn eu hadroddiad yn cyfeirio at Cyfoeth Naturiol Cymru, pa gyngor a roddwyd gennych i CNC ar eu rôl yn gweithio gyda thirfeddianwyr ac asiantaethau eraill er mwyn osgoi sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol.