Diwydiant Bwyd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 9 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 1:53, 9 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, bydd yn ddiddorol gweld yr ymatebion. Yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, cawsom wybod bod yr adroddiad ar gyflwr byd natur a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn tynnu sylw at golli pryfed i raddau brawychus, gan gynnwys 60 y cant o loÿnnod byw a saith rhywogaeth o wenyn yng Nghymru. Nawr, mae gorddefnyddio plaladdwyr, yn hytrach na gadael i natur ffynnu ochr yn ochr â defnydd pobl o'r tir, yn amlwg yn destun pryder. Felly, dau gwestiwn: pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i leihau'r defnydd o blaladdwyr sy'n peryglu peillio ffrwythau, llysiau a blodau? Ac yng nghyd-destun bygythiad Brexit heb gytundeb, sy'n creu problemau difrifol iawn mewn perthynas â'n diogelwch bwyd, sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu defnyddio caffael cyhoeddus i brynu mwy o gynnyrch o Gymru, a fyddai, fel sgil-effaith, yn amlwg yn lleihau milltiroedd bwyd?