Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 9 Hydref 2019.
O gofio bod y gwaith o ad-drefnu llywodraeth lleol yng Nghymru wedi'i wthio i'r naill ochr, Weinidog, a allwch chi ddweud pa gamau rydych yn eu cymryd i annog a chyflymu'r cydweithrediad rhwng awdurdodau lleol presennol mewn perthynas â darparu gwasanaethau a swyddogaethau corfforaethol i gynhyrchu arbedion ariannol, os gwelwch yn dda?