Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 9 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:28, 9 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Y mis diwethaf, fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig yn dweud eich bod yn ymwybodol o nifer o adeiladau uchel iawn a adeiladwyd o fewn y 10 i 15 mlynedd diwethaf sydd â diffygion sylweddol. Nawr, rwyf wedi derbyn gohebiaeth yn ymwneud ag adeiladau sy'n perthyn i'r categori hwn ac mae'n warthus darllen straeon am deuluoedd ifanc sydd wedi'u dal mewn fflatiau anaddas na allant eu gwerthu gan nad oes unrhyw un wedi ysgwyddo cyfrifoldeb am gywiro'r diffygion hynny er mwyn sicrhau y gall teuluoedd sy'n dymuno symud werthu'r eiddo hwnnw. Weinidog, beth y bwriadwch ei wneud i helpu teuluoedd yn y sefyllfa hon a fydd yn eu helpu yn awr?