Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 9 Hydref 2019.
Nid oes tystiolaeth fod cynghorau mawr yn fwy effeithiol neu effeithlon na chynghorau bach. Bydd ein Bil llywodraeth leol yn grymuso cynghorau, yn diwygio ac yn cryfhau democratiaeth leol, yn creu amodau ar gyfer darparu gwasanaethau lleol yn well, ac yn darparu fframwaith cadarn i awdurdodau weithio ar sail ranbarthol lle mae manteision iddynt o wneud hynny.