Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 9 Hydref 2019.
Credaf ei fod yn adroddiad da iawn, ac mewn gwirionedd, mae'n rhoi cyfle i mi hyrwyddo'r uwchgynhadledd ar wasanaethau cyhoeddus y byddaf i a'r Prif Weinidog yn ei hannerch yfory, sydd i'w chynnal dros ddau ddiwrnod yn Stadiwm Liberty, i lawr yn Abertawe, gyda'r union bwrpas o ledaenu arferion da yn eang yng Nghymru, ar thema un gwasanaeth cyhoeddus i Gymru. Mewn gwirionedd, mae Academi Wales yn sefydliad eithriadol o dda, ac fe'i canmolwyd, ac yn wir caiff ei ganmol yn yr adroddiad hwnnw, am ei allu i fframio'r sgwrs am arweinyddiaeth mewn llywodraeth leol. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn hefyd gyda CLlLC, ac yn wir gyda pheth arian sydd gennym gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, cyllidwyd posibiliadau arweinyddiaeth ar gyfer swyddogion trydedd haen ac is ar draws yr awdurdodau lleol yng Nghymru, fel bod ganddynt gyfleoedd arweinyddiaeth sy'n gwella gyrfa. Ac rydym yn awyddus iawn i weithio gydag Academi Wales ar gyfleoedd ar gyfer secondiadau—o wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru, allan i adrannau gweithredol llywodraeth leol, ac fel arall, fel bod gan y naill ddealltwriaeth well ynglŷn â sut y mae'r llall yn gweithio, gyda golwg ar wella'r agweddau arweinyddiaeth ar hynny.
O ran llais y cyhoedd, rydym yn annog awdurdodau lleol yn gryf i ymgysylltu â'u cyhoedd mewn cyfres mor eang â phosibl o ddigwyddiadau, gyda'r nod o wella'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus, ond gyda'r nod o wella dealltwriaeth swyddogion yr awdurdodau o sut y maent yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yn eu maes penodol.
Nid wyf yn gwybod a oedd Mark Isherwood yn ceisio dweud ei fod am hyrwyddo hyn, ond i fod yn glir, nid wyf—nid wyf yn meddwl bod un ateb sy'n addas i bawb yng Nghymru. Felly, nid wyf yn meddwl y gallwch ddweud, 'Mae hyn yn edrych fel arweinyddiaeth dda—rhaid i chi ei wneud fel hyn.' Rwy'n credu ei fod yn wahanol iawn, yn dibynnu ar ble rydych chi, sut un yw eich awdurdod, sut un yw eich poblogaeth leol. Ond rydym yn gweithio'n galed iawn gydag Academi Wales ar ledaenu arferion da ledled Cymru, ac mae'r deuddydd nesaf i lawr yn Abertawe yn enghraifft dda o hynny.