Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 9 Hydref 2019.
Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am arolygu a rheoleiddio llawer o wasanaethau gwahanol, yn rhai datganoledig a heb eu datganoli. Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r fframweithiau statudol ar gyfer y rheini mewn meysydd datganoledig, a chaiff y rhain eu hadolygu o bryd i'w gilydd.