Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 9 Hydref 2019.
Rwy'n credu bod pawb wedi ffieiddio ac wedi'u siomi i'r un graddau gan yr hyn a welsom ar ein sgriniau yr wythnos diwethaf, ond mae fy nghwestiwn yn glir iawn: rwy'n gofyn yn awr am foratoriwm ar unrhyw drwyddedau newydd o gwbl sy'n ymwneud â ffermio cŵn bach. Oherwydd, yn unol â'r atebion a gefais gan gynghorau Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, maent wedi'u llethu ar hyn o bryd. Os ydynt wedi'u llethu yn awr gyda'r hyn sydd ganddynt, mae'n weddol amlwg i mi nad oes angen mwy arnynt. Gwn fod yna gais ger bron yng Ngheredigion, a gwn fod 4,500 o lofnodwyr yn gwrthwynebu'r cais hwnnw. Buaswn yn rhoi fy nghefnogaeth iddo oherwydd ni allwn barhau i ganiatáu trwyddedau neu ganiatáu i awdurdodau ganiatáu trwyddedau a hwythau, yn ôl eu cyfaddefiad eu hunain, wedi'u llethu.