Polisi Cynllunio ar gyfer Tai Newydd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 9 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:57, 9 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Roeddwn am sôn am rywbeth y gofynnodd Leanne Wood i chi yn gynharach, rhywbeth na wnaethoch ymateb iddo'n uniongyrchol, felly roeddwn am roi cynnig arall arni a gofyn am 'ie' neu 'na' syml, os oes modd. Roeddwn yn meddwl tybed a allech gadarnhau y dylid defnyddio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol fel ystyriaeth berthnasol gan bwyllgorau cynllunio wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio, ac na ddylid rhoi mwy o bwysau i gynlluniau datblygu lleol a gynhyrchwyd cyn y Ddeddf hon na'r hyn sy'n ofynnol yn y Ddeddf mewn penderfyniadau a wneir gan bwyllgorau heddiw. 'Dylid' neu 'na ddylid'?