Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 9 Hydref 2019.
Diolch, Weinidog. Rwy'n siŵr nad wyf ar fy mhen fy hun yn y Siambr hon yn canfod, bron yn ddieithriad, fod gan yr etholwyr a ddaw i fy ngweld ynghylch problemau tai broblemau iechyd, a phroblemau iechyd meddwl hefyd fel arfer. Mae'n gwbl hanfodol gan hynny fod byrddau iechyd yn gweithio'n rhagweithiol gyda darparwyr tai i ddiwallu anghenion y cymunedau. Yn fy mhrofiad i, gall y gwaith hwnnw fod yn dameidiog ac nid yw'n canolbwyntio digon ar ymyrryd yn gynnar. A wnewch chi drafod hyn gyda'r Gweinidog iechyd i geisio sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn mynd ati'n rhagweithiol i gefnogi anghenion tai cymunedau?