Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 9 Hydref 2019.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwy'n ymwybodol o'r—. Rwy'n ymwybodol o'r hyn y cyfeiriwch ato, ac rwy'n deall bod y cynnig wedi'i dynnu'n ôl bellach a bod negodiadau'n mynd rhagddynt gyda'r undebau llafur, a hoffwn annog y negodiadau hynny i barhau, yn enwedig gydag Unsain, i gynrychioli'r gweithlu yno. Yn amlwg, fel y nodir yn ein cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol, byddem yn disgwyl cyrraedd lefel uwch, nid lefel is, yn y pethau hyn. Mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn ei drafod yn fwy manwl, wrth gwrs, fel cadeirydd cyngor partneriaeth y gweithlu, gydag aelodau yno i sicrhau ein bod yn gwneud yn siŵr fod y cod cyflogaeth yn cael ei weithredu a'i orfodi ar draws llywodraeth leol wrth symud ymlaen.