Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 15 Hydref 2019.
Diolch, Prif Weinidog. Mae nifer y staff llywodraeth leol ledled Cymru a gymerodd absenoldeb cysylltiedig â straen y llynedd 18 y cant yn uwch nag yn y ddwy flynedd flaenorol. Cymerodd 807 o staff yng nghyngor Caerffili absenoldeb cysylltiedig â straen y llynedd, ac ym Merthyr Tudful, roedd y nifer fwy na thair gwaith yn fwy, o 105 i 318. Prif Weinidog, a ydych chi'n rhannu fy mhryder ynghylch y ffigurau hyn, a pha gamau y byddwch chi yn eu cymryd i leihau'r pwysau ar staff cyngor, sy'n effeithio'n ddifrifol ar eu hiechyd ac yn arwain at ganlyniadau i'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus o ansawdd da yn y de-ddwyrain?