Mawrth, 15 Hydref 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mohammad Asghar.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella amodau gwaith staff a gyflogir gan awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ54508
2. Pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adfywio tai yng nghymoedd Ogwr? OAQ54534
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
3. Pa drafodaethau am Brexit y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU yn ystod y mis diwethaf? OAQ54536
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru ar gyfer Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ54537
5. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith ariannol y byddai annibyniaeth o weddill y DU yn ei chael ar Gymru? OAQ54510
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith amcangyfrifon diweddaraf y boblogaeth ar wasanaethau cyhoeddus Cymru? OAQ54558
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol? OAQ54515
8. Sut y bydd y Rhondda'n elwa o Dasglu'r Cymoedd? OAQ54529
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol ar ei gyfirfoldebau fel swyddog cyfreithiol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Bethan Sayed.
1. Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch maint yr ystâd carchardai yng Nghymru? OAQ54520
2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phriodoldeb y canllawiau a roddir i awdurdodau lleol ar y cynllun bathodyn glas? OAQ54531
3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am waith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OAQ54513
4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gyda'i gyd-Weinidogion yn y Cabinet ynghylch datblygu cynigion deddfwriaethol i sicrhau terfynau cyflymder diogel ledled Cymru? OAQ54514
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad. Rebecca Evans.
Eitem 4 ar yr agenda yw Gorchymyn Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Amrywio Atodlen 8) (Cymru) 2019, ac rwy'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley...
Rydym yn symud at eitem 5 nawr, sef datganiad gan y Prif Weinidog ar bolisi cyfansoddiadol, ac rwy'n galw ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru). A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei...
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: y wybodaeth ddiweddaraf am gynllunio'r GIG. A galwaf eto ar y Gweinidog Iechyd a...
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofal dementia yn y Gymraeg?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia