Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:46, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu efallai y byddai cleifion sy'n ceisio cael mynediad at y gwasanaethau hynny, nad ydyn nhw'n gallu gwneud hynny ar adeg sy'n gweithio iddyn nhw mewn gwirionedd, yn rhoi ymateb gwahanol iawn, iawn i'r un y mae'r Prif Weinidog newydd ei roi. Ond er mwyn ymhelaethu rhyw fymryn pellach ar ei ymateb: a yw'n dweud mai rhan o'r penderfyniad pam y gwnaethoch chi gefnu ar yr addewid hwn oedd gan nad oedd yn effeithiol, nid yn unig o ran ei effaith ond yn gost-effeithiol, felly roedd cost y cyfle, cost-effeithiolrwydd cyflawni'r addewid hefyd yn ffactor? Oherwydd yr hyn a ddywedasoch ar y pryd, ac rwy'n dyfynnu eich rhagflaenydd fel Prif Weinidog yn y fan yma, dywedodd y Prif Weinidog blaenorol:

'Nid oes unrhyw gost i ymestyn oriau agor meddygon teulu. Y cyfan yr ydym yn gofyn iddynt ei wneud yw ailwampio eu horiau'.

Nawr, mae fy mhlaid i wedi dadlau'n gyson mai un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ehangu mynediad at wasanaethau meddygon teulu yw cael mwy o feddygon teulu, ac ers i chi wneud yr addewid hwn am oriau hygyrch, mae nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi gostwng. Nid oes rhyfedd na allech chi gyflawni'r addewid cyn gorfod cefnu arno.

Oni fyddech chi'n derbyn yr angen i fabwysiadu polisi o gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu i 200 y flwyddyn, fel y mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi ei argymell, yn rhan o broses ehangach o gynyddu nifer ein meddygon? Yn Lloegr, sylwais—dilynwr brwd fel yr wyf i o gynhadledd y Blaid Lafur—eich bod chi wedi ymrwymo i gynnydd o 40 y cant i nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant. Onid yw hwn yn arwydd arall o Lafur yn addo i Loegr yr hyn y gallai fod yn ei wneud eisoes yma yng Nghymru?