Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 15 Hydref 2019.
Wel, fel yr ydych chi wedi ei ddweud yn y fan yna, Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod bod straen yn dod yn fwyfwy y rheswm am absenoldeb staff yng nghynghorau Cymru, ac mae toriadau cyllideb a roddwyd ar waith gan San Steffan, ac a basiwyd ymlaen gan y Llywodraeth Cymru Lafur hon, wedi arwain at golli swyddi sylweddol yn ein cynghorau, sy'n golygu bod staff yn gorfod darparu'r un gwasanaeth gyda llai o adnoddau. A wnewch chi gydnabod y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid digonol i gynghorau yng nghylch nesaf y gyllideb er mwyn lleihau'r lefelau o straen ar ein staff awdurdodau lleol?