Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 15 Hydref 2019.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ymrwymodd maniffesto'r Blaid Lafur yn 2011 i'w gwneud yn ofynnol i feddygon teulu wneud meddygfeydd yn fwy hygyrch i bobl sy'n gweithio fel y gallen nhw gael gafael ar wasanaethau meddygon teulu gyda'r nos ac ar foreau Sadwrn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ei wneud i sicrhau y gall cleifion gael gafael ar wasanaethau ar adeg sydd fwyaf cyfleus iddyn nhw?