5. Datganiad gan y Prif Weinidog: Polisi Cyfansoddiadol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:30, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Ac nid oes unrhyw amheuaeth yn fy marn i, Dirprwy Lywydd, fod Brexit yn fygythiad sylfaenol i lywodraethu'r Deyrnas Unedig. Ond prin iawn yw'r dystiolaeth fod Llywodraeth y DU ei hun yn rhoi unrhyw ystyriaeth ddifrifol i hynny. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn amlinellu ein cynigion ni ar gyfer y diwygio sylfaenol sy'n angenrheidiol.

Rydym yn cynnig gweddnewidiad sylfaenol i'r cysyniad o sofraniaeth yn y Deyrnas Unedig; setliad cyfansoddiadol di-syfl, gyda diwygiad o gonfensiwn Sewel i sicrhau llawer mwy o eglurder yn y berthynas rhwng Senedd y DU a'r deddfwrfeydd datganoledig. Ac rydym yn galw am ddiwygio Tŷ uwch y Senedd, gydag aelodaeth, a gaiff ei hethol yn bennaf neu'n gyfan gwbl, sy'n ystyried cymeriad amlwladol yr Undeb. O ran y gweinyddiaethau datganoledig, rydym yn dadlau y dylai'r ffordd y dyrennir cyfrifoldebau llywodraethol yn y DU fod yn seiliedig ar egwyddor sybsidiaredd; y dylai'r berthynas rhwng y pedair Llywodraeth fod yn seiliedig ar bartneriaeth gydradd mewn ysbryd o barch cyffredin; a bod yn rhaid diwygio'r mecanweithiau rhynglywodraethol presennol yn gyfan gwbl, gan gynnwys gwella gweithdrefnau i ddatrys anghydfod a chydraddoldeb o ran cyfranogi yn y ffordd y mae'r mecanweithiau hynny'n gweithio. Rydym yn galw am gynnwys gweinyddiaethau datganoledig wrth lunio polisi Llywodraeth y DU ar gysylltiadau rhyngwladol a masnach, ac am gyllido teg ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig.

Dirprwy Lywydd, mae'r cynigion hyn i gyd yn seiliedig ar y cysyniad o'r Deyrnas Unedig fel cymdeithas wirfoddol o genhedloedd sy'n cydweithio i hyrwyddo ein buddiannau cyffredin. Felly, ein hystyriaeth sylfaenol ni yw'r ffordd y dylid llywodraethu'r DU gyfan, yn seiliedig ar gydnabod ein cyd-ddibyniaeth. Mae hynny'n gofyn am rywfaint o lywodraethu ar y cyd. Ond mae'n rhaid diwygio'r trefniadau yn sylfaenol ar gyfer y cyd-lywodraethu hwnnw er mwyn gallu gwasanaethu ein dinasyddion yn dda. Ac mae'n rhaid inni roi'r gorau i wneud addasiadau ad hoc i setliadau unigol heb ystyried cyd-destun ehangach y DU.

Dirprwy Lywydd, mae hwn yn gyfnod o chwalu confensiynau a dealltwriaethau cyfansoddiadol traddodiadol. Felly, yn y ddogfen hon, rydym yn ailadrodd ein galwad ni am gonfensiwn cyfansoddiadol i fynd i'r afael â'r materion hyn, gydag ystyriaeth benodol o'r berthynas yn y dyfodol rhwng y sefydliadau datganoledig ar y naill law a San Steffan a Whitehall ar y llaw arall. Ni ddylai confensiwn o'r fath, yn ein barn ni, gael ei gyfyngu i'r rhai sy'n gweithio o fewn y systemau hyn eisoes. Bydd yn rhaid ei ehangu a'i lywio gan lais torfol y dinasyddion hefyd. A byddai angen i gonfensiwn o'r fath ystyried, yn y cyfnod hwn o hollt cyfansoddiadol posibl, ai'r peth iawn fyddai symud nawr tuag at gyfansoddiad ysgrifenedig neu un sydd wedi ei godio ar gyfer y Deyrnas Unedig.

Felly, Dirprwy Lywydd, rydym ni'n rhoi agenda uchelgeisiol ar y bwrdd. Os yw'r Deyrnas Unedig am oroesi'r heriau a godir gan y ddadl ynghylch Brexit, mae hon yn ddadl na allwn ni ei hosgoi. Rwy'n gwybod, yma yn y Senedd, fod yna Aelodau sydd eisoes yn cydnabod difrifoldeb yr her hon a pha mor ddifrifol yw'r angen i fynd i'r afael â hyn. Ac wrth gwrs, rwy'n croesawu clywed barn yr holl Aelodau ynglŷn â'r materion hyn.