Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 15 Hydref 2019.
Prif Weinidog, a gaf i groesawu'r papur yn fawr a hefyd i ba raddau y mae'r papur yn tynnu oddi ar lawer o'r gwaith a'r dadlau sydd wedi digwydd yn y gwahanol bwyllgorau ac yn Siambr hon, yn ogystal â'r pwyllgorau cyfansoddiadol amrywiol ledled Seneddau amrywiol y DU? Fe fyddwch chi'n ymwybodol o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 'Llywodraethiant y DU ar ôl Brexit', ac mai un o'r prif argymhellion ynddo oedd argymell diwygio'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn sylfaenol a chydnabod yr angen i gydweithio nid yn unig rhwng Llywodraethau ond, yn bwysig, i gydweithio rhwng seneddau hefyd. Ac roedd gennym ni gyfarfod bwrdd crwn, agored a chyhoeddus, ddoe, gyda rhai o arbenigwyr cyfansoddiadol mwyaf blaenllaw'r DU yn siarad mewn gwirionedd am lawer o'r materion allweddol hyn sydd ger ein bron.
Un o'r materion sylfaenol sy'n dod i'r amlwg o'r papur—ac sydd wedi bod yn gyffredin, rwy'n credu, ym mhob un o'r dadleuon—yw, os bydd unrhyw ddiwygiad cyfansoddiadol sylweddol yn digwydd, yna mae sofraniaeth yn greiddiol i hynny, ac yn gosod cyfyngiadau ar sofraniaeth ac ar allu San Steffan i ddiystyru neu anwybyddu'r arfer o gyflawni cyfrifoldebau a ddatganolwyd gan San Steffan. Felly, bydd yn rhaid cael diwygiad llwyr o'r ffordd y gellir ymarfer sofraniaeth seneddol a, heb hynny, mae'n anodd gweld y gellir cael unrhyw newid cyfansoddiadol sylweddol.
Un mater sy'n peri cryn bryder, yn amlwg, yw bod angen inni fod yn ofalus nad ydym yn sôn am ymladd rhwng seneddau, ond rydym ni'n cydnabod bod mater y cyfansoddiad, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, yn eiddo i bobl Cymru, a hefyd i bobl y DU gyfan, o ran natur yr hyn a allai ddigwydd neu beidio. Nawr, mae swyddogaeth y pwyllgorau a'r Siambr hon yn bwysig iawn. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n gwneud rhai sylwadau ynghylch sut yr ydych chi'n gweld natur y dadleuon a'r digwyddiadau hyn yn datblygu ar gyfer sicrhau bod y Cynulliad hwn yn cyfranogi yn llawn yn y prosesau hynny wrth iddyn nhw ddatblygu.
Ac yna, yn y bôn, y peth allweddol yw ein bod ni wedi mynegi'r pwyntiau hyn dro ar ôl tro, yn aml heb fawr o ymateb ar lefel y DU, a'r cwestiwn yw: sut mae sicrhau bod newid yn digwydd? Roedd yna athronydd enwog iawn, economegydd, a ddywedodd nad yw athronwyr hyd yn hyn ond wedi dehongli'r byd mewn amrywiol ffyrdd, ond y pwynt, serch hynny, yw ei newid.
Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cynnig cynhadledd i'r Llefarydd, fel y digwyddodd, mewn gwirionedd, ym 1920. Felly, nid syniad newydd mohono, ond ffordd o gychwyn a dechrau dadl gyfansoddiadol, efallai y tu allan i'r awyrgylch gwenwynig sy'n bodoli o fewn gwleidyddiaeth y DU. Ac un o'r rhwystrau i hyn, wrth gwrs, yw bod siaradwr presennol Senedd y DU yn cael ei ystyried gan rai yn ffigwr dadleuol, ac ni ellid symud i'r cyfeiriad hwn. Ond fe fyddwn yn cael Llefarydd newydd yn San Steffan cyn bo hir ac efallai y bydd penodi'r Llefarydd yn gyfle i hyn ddigwydd. Felly, tybed pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo gweithredu a rhoi ysgogiad cychwynnol i'r ddadl angenrheidiol hon. A wnewch chi gymryd o ddifrif ac ystyried y cyfle a ddaw, efallai, i gyflwyno sylwadau fel y gallai cychwyn cynhadledd i'r Llefarydd, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, fod yn un ffordd o ddechrau'r broses hon mewn gwirionedd?