Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 15 Hydref 2019.
Diolch, Llywydd. Ac a gaf i, wrth groesawu'r datganiad a hefyd naws y cyfraniadau sydd yma heddiw, ddweud—mae hwn yn ddatganiad cryno, nid dyma'r hiraf a welsom ni yn y fan yma—pa mor bellgyrhaeddol a blaengar yw hi i gael Prif Weinidog Cymru yn sefyll ac yn cyflwyno rhai cynigion manwl, gyda pheth eglurder, ger ein bron, ond hefyd i lunio'r ddadl ynghylch diwygio cyfansoddiadol gydag eglurder o'r fath hefyd? A chan y bûm i'n Aelod Seneddol cyn dod yma, wrth imi eistedd yma yn gwrando ar y Prif Weinidog a'r cyfraniadau, roeddwn yn ceisio dychmygu'r diwrnod y byddai un o Brif Weinidogion Prydain yn codi yn y Siambr arall yn San Steffan ac yn dweud, 'Mae angen confensiwn cyfansoddiadol arnom ni; mae angen i ni ymgysylltu â gwledydd a rhanbarthau datganoledig y Deyrnas Unedig; mae angen inni lunio dyfodol, sydd, fel y'i hamlinellwyd yn y datganiad byr ond dwys hwn heddiw, yn sicrhau Cymru gref o fewn Teyrnas Unedig gref, ond yn cydnabod hefyd mai cymdeithas wirfoddol o genhedloedd yw hon sy'n cydweithio i ddatblygu ein diddordebau cyffredin.' Mae hynny, byddwn yn awgrymu, yn ail-lunio'r ddeialog hon yn radical, yn amserol iawn, a byddwn yn croesawu'r cyfle—a chlywais eiriau Paul, arweinydd y Ceidwadwyr, funud yn ôl a'i gefnogaeth i gonfensiwn, confensiwn dinasyddion. Pe gallem ni, Paul, ddadlau gyda'n gilydd yma ar draws y pleidiau gyda'n cyd-Aelodau yn San Steffan i gyflawni hynny mewn gwirionedd, pwy bynnag sy'n eistedd yn sedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ymhen ychydig wythnosau neu fisoedd, yna byddem yn gweld cynnydd yn wir.
Ond ceir rhai cynigion arwyddocaol yn y fan yma, materion ynghylch ffordd wahanol o ddychmygu sofraniaeth yn y gwledydd a'r rhanbarthau hyn o'r Deyrnas Unedig; Tŷ uchaf diwygiedig yn Senedd y DU, Senedd San Steffan, a oedd yn wir yn gynrychioliadol o'r cenhedloedd a'r rhanbarthau hynny; lle byddai'r egwyddor o sybsidiaredd wedi ymwreiddio'n ddwfn, a gwybodaeth ynghylch beth y mae hynny'n ei olygu; ac, i bob pwrpas, y posibilrwydd o gael confensiwn dinasyddion i edrych ar hyn yn hollol wahanol ac i ddweud, 'dyma gompact, cytundeb gan y cenhedloedd a'r rhanbarthau, i ddweud mai'r rhain yw'r pwerau, dyma'r awdurdod yr ydym yn ei fuddsoddi yng nghanol y Deyrnas Unedig, a dyma'r hyn y dylem fod yn ei gael yma.' A bod cydraddoldeb parch, a chydraddoldeb rhwng y swyddogaeth weithredol a'r swyddogaeth graffu o fewn y sefydliadau hynny. Mae hyn yn fater o dyfu yn y Deyrnas Unedig.
Dim ond un cwestiwn sydd gennyf, ac mae wedi cael ei eirio eisoes mewn ffordd wahanol, ond yn bendant mae mantais i roi eglurder i hyn er mwyn dechrau'r ddadl, ac mae eraill sydd hefyd yn cychwyn y ddadl hon. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Choleg y Brenin yn Llundain, a chyn-gydweithwyr i mi sy'n ymwneud â hyn. Beirniadaeth fechan iawn fyddai bod yr aelodaeth a'r pwyslais a'r cylch gorchwyl yn canolbwyntio gormod braidd ar San Steffan, fel y gallech chi ddychmygu. Ond fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog fyddai hyn: os gallwn ni drafod hyn a rhoi cychwyn ar y ddadl, sut y byddwn yn symud ymlaen mewn gwirionedd fel bod gennym ni ddylanwad yn Whitehall, yn yr Alban, gydag Andy Burnham ym Manceinion, gyda Sadiq Khan yn Llundain, a'r sefydliadau hynny hefyd? A oes rhywbeth y gallwn ni ei wneud ar y cyd i weithio gydag eraill yng ngwahanol rannau o Loegr, heb sôn am Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, i yrru'r agenda hon yn ei blaen? Oherwydd mae'r hyn sydd gennym i'w gynllunio—. Rwy'n cytuno ag ef wrth ddweud—bydd hyn yn digwydd pa un a yw wedi'i gynllunio ai peidio. Bydd rhywbeth yn newid oherwydd ei fod yn dechrau torri a hollti. Felly, sut ydym ni'n achub y blaen ar y sefyllfa hon? Beth allwn ni ei wneud i ddod ag eraill i'n cefnogi ni i sefydlu'r confensiwn hwn? Nid dweud yr wyf i mai dyma'r cynllun mawr hudolus ar gyfer gwireddu hynny, ond siawns mai rhan o hyn yw sefydlu'r confensiwn hwnnw mewn gwirionedd, ac efallai y bydd gennym ni gynghreiriaid o gwmpas Lloegr yn ogystal â rhannau eraill o'r DU a fyddai'n ein cefnogi ni i wneud hynny.