6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:50, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i groesawu'r datganiad hwn yn fawr, yn ogystal â Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)? Fe wnaf ddatgan fy muddiant arferol fel meddyg teulu y gwyddys iddo dalu ei indemniad meddygol ers blynyddoedd lawer, neu fel arall ni chaniateid imi ymarfer fel meddyg teulu o gwbl.

Nawr, mae'r Bil hwn yn sicrhau bod cyfatebiaeth rhwng sefyllfa ymarferwyr cyffredinol a'r hyn sydd wedi digwydd erioed gyda meddygon ysbytai a meddygon ymgynghorol ysbytai, o ran bod y wladwriaeth bob amser wedi talu eu ffioedd indemniad meddygol enfawr, a nawr rydym ni'n mynd i fod yn gwneud yr un peth ar gyfer ymarferwyr cyffredinol—a hen bryd, byddai llawer o bobl yn ei ddweud, oherwydd bod yswiriant indemniad meddygol ar hyn o bryd yn gallu bod hyd at oddeutu £15,000 y flwyddyn, ar raddfa symudol, yn dibynnu ar ble yr ydych chi'n gweithio—gwaith y tu allan i oriau, gweithio mewn unedau damweiniau ac achosion brys, ar adegau sy'n fwy peryglus yng nghanol y nos. Ond mae'n gost bersonol enfawr sydd yn amlwg wedi'i hamlygu yn y blynyddoedd diwethaf fel rheswm i ymarferwyr cyffredinol benderfynu peidio â bod yn ymarferwyr cyffredinol, yn enwedig rhai rhan-amser neu rai sy'n tynnu tuag at ddiwedd eu gyrfaoedd—mewn gwirionedd, mae'n costio mwy iddyn nhw mewn indemniad meddygol nag y bydden nhw yn ei ennill mewn gwirionedd drwy wneud llai o waith. Felly, cost gynyddol indemniad meddygol yw'r hyn sydd wedi ysgogi'r darn hwn o ddeddfwriaeth, sy'n cael ei groesawu.

Dim ond un neu ddau o sylwadau: yn amlwg, atebolrwyddau yn y dyfodol, mae'r rhan honno eisoes yn weithredol ers mis Ebrill eleni. Yr hyn yr ydym ni'n ei basio nawr yw gwelliant technegol, os mynnwch chi, ar hynny. Ac yn amlwg rydym yn craffu ar hynny yn y Pwyllgor Iechyd ac yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Mae'n ymwneud ag atebolrwyddau presennol—mewn geiriau eraill, pethau sydd wedi digwydd cyn Ebrill 2019. Ac, dim ond i ddatgan ffaith, yn amlwg, gall esgeuluster meddygol, fel y'i gelwir, neu hawliadau, ddechrau amser maith yn ôl a dim ond dod i'r wyneb, neu nodi—neu mae rhywun yn penderfynu cyflwyno hawliad—flynyddoedd lawer ar ôl i'r achos ddigwydd. Rwy'n gwybod am enghreifftiau o fwlch o 20 mlynedd a mwy rhwng y digwyddiad gwirioneddol a chwyno am y digwyddiad hwnnw. Nawr, os ydym ni'n mynd i ddweud nawr bod y cynllun atebolrwydd presennol hwn yn cwmpasu popeth cyn Ebrill 2019, a wnewch chi ddatgan sut yr ydych chi'n teimlo y byddai hynny'n gweithio, mewn gwirionedd? A ydych chi am fynd yn ôl 20 mlynedd, oherwydd byddai gennyf y pryder hwnnw ynghylch Llywodraeth Cymru a sut mae Llywodraeth Cymru yn diogelu ei hun, fel petai, rhag yr atebolrwyddau enfawr a allai godi.

Gan nad oes modd dianc—a dyma fy sylw olaf, nawr—rhag y ffaith bod costau enfawr ynghlwm wrth hyn, nid o ran gweithredu'r Bil mewn gwirionedd, yn amlwg, ond o ran y costau cyfreithiol enfawr. Dyna pam mae'n rhaid i ni gael yswiriant indemniad meddygol yn y lle cyntaf, oherwydd bod system wrthwynebol iawn ar hyn o bryd: mae'n rhaid i gleifion a'u teuluoedd brofi bod meddyg neu nyrs wedi bod yn esgeulus—mae honno'n sefyllfa gymhleth iawn—yn hytrach na mewn rhai gwledydd, rydym ni'n derbyn y posibilrwydd o gamgymeriadau a damweiniau meddygol ac mae gan bobl raddfa symudol o iawndal, o'r enw iawndal 'dim bai', lle nad oes yn rhaid ichi brofi bai, ond rydych chi'n cael yr arian yn llawer cynt nag ydych chi yn y system gyfreithiol wrthwynebol bresennol sydd gennym ni yn y wlad hon. Felly, er fy mod yn croesawu'r Bil hwn sydd yn amlwg yn sicrhau cyfatebiaeth rhwng ymarferwyr cyffredinol a meddygon ysbytai a meddygon ymgynghorol sydd eisoes ag imiwnedd y Goron, o ran ehangu'r prosesau meddwl ar gyfer y dyfodol, pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi hefyd i system o iawndal 'dim bai', fel sy'n bodoli mewn gwledydd eraill, fel Seland Newydd? Diolch.