6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:44, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n falch o gael y cyfle i ymateb i'r datganiad hwn ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy'n ddiolchgar am gael gweld y datganiad o flaen llaw, ac rwy'n gwybod fod fy nghyd-Aelod Angela Burns AC yn ddiolchgar am y briff technegol a drefnwyd gennych yn ddiweddar.  

A gaf i ddechrau drwy groesawu'r datganiad? Mae'n Fil hanfodol ac mae'n bwysig ei fod wedi'i gyflwyno ger ein bron heddiw, gydag ychydig wythnosau prysur o'n blaenau, i gael ymgorffori'r Bil mewn cyfraith cyn y flwyddyn ariannol newydd ym mis Ebrill. Mae ymarferwyr cyffredinol wedi bod yn erfyn am gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, ac mae'n hanfodol bod Cymru ar sylfaen debyg i Loegr i'n galluogi ni yma yng Nghymru i gystadlu o dan yr un amodau o ran recriwtio a chadw meddygon teulu. Hoffwn, fodd bynnag, grybwyll rhai meysydd sy'n peri pryder inni a gofyn am rywfaint o eglurhad ar rai materion.  

Gweinidog, mae'r datganiad yn honni y bydd gweithredu'r Bil hwn yn costio tua £30,000. Hoffwn ddeall mwy am sut y cyfrifwyd y ffigur hwn a pha sicrwydd y gellir ei roi na fyddir yn mynd y tu hwnt i'r gyllideb hon. A wnewch chi roi'r sicrwydd hwn?

Gweinidog, rydych chi'n crybwyll y cynhelir adolygiad ar ôl gweithredu, ond ni fanylir ar hyn yn y Bil. Roedd hwn yn amcan gwleidyddol i'ch Llywodraeth, fel y nodir yn y memorandwm Gweithredol. Ar hyn o bryd, nid yw'n ymddangos bod modd i'r Cynulliad adolygu nac adrodd yn ôl, sy'n golygu nad yw amcan y polisi o fonitro gweithrediad y cynllun yn un pendant. A wnewch chi egluro pam nad yw'r adolygiad hwn wedi'i gynnwys yn y Bil hwn?

Gweinidog, rwyf hefyd yn awyddus i wybod pam eich bod yn defnyddio gweithdrefn negyddol, o gofio bod pwyllgorau di-ri wedi argymell pwerau cadarnhaol i wneud rheoliadau. Mae'n codi cwestiynau ynglŷn â'r gallu sydd gan y Cynulliad hwn i graffu ar gynigion Llywodraeth Cymru yn effeithiol.

Dywedodd fy nghyd-Aelod Angela Burns yn ystod hynt y Bil isafbris alcohol y gallai defnyddio'r weithdrefn negyddol arwain at Gynulliad yn y dyfodol yn eich barnu'n llym os na fyddwch yn casglu tystiolaeth gredadwy, gyson sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a fyddai'n galluogi craffu priodol a barn gadarn. Felly, a wnewch chi esbonio pam yr ydych chi wedi dewis dilyn llwybr y weithdrefn negyddol?

Ac, yn olaf, mae gennyf bryder ynghylch amserlennu'r Bil hwn. Mae'n ymddangos ein bod ni yn rhuthro pethau. Ac er fy mod yn derbyn bod angen Cydsyniad Brenhinol i'r Bil hwn ar frys, mae cael cyfnod mor fyr ar gyfer cyflwyno a chraffu ar dystiolaeth yn peri pryder mewn gwirionedd. A gaf i sicrwydd y bydd y broses hon yn caniatáu cyfnod digonol i alluogi proses graffu lawn a thryloyw? A pham na chafodd ei gyflwyno yn gynharach i osgoi'r hyn sydd bellach yn rhuthro amhriodol? Diolch.