6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:59, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Fe wnaf i ymdrin â'r tri chwestiwn penodol ac yna pwynt am y cynnydd mewn costau.

O ran eich sylw olaf, nid wyf yn siŵr a yw hynny'n arbennig o berthnasol i'r Bil o safbwynt pobl sy'n gweithio yn y sector carchardai. Mae gennym ni ddau gynllun gwahanol; mae cynllun atebolrwyddau'r dyfodol eisoes ar waith. Mae hyn yn ymwneud ag atebolrwyddau presennol ac, mewn gwirionedd, fel y dywedais mewn ymateb i Dai Lloyd, cyn belled â bod rhywun eisoes yn aelod o sefydliad amddiffyn meddygol, yna cânt sicrwydd. Diben y gwelliant yw'r atebolrwyddau presennol yr adroddwyd arnynt, ond na fu hawliad yn eu cylch, fel y dywedais yn fy natganiad.

O ran y sylw am weithgarwch trawsffiniol, eto, rhan o amcan a diben cael y Bil hwn a'r cyfnod craffu byrrach y mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno arno yw sicrhau bod gennym ni'r rheoliadau hyn a'r cynllun ar waith. Un o'r pethau penodol y bydd yn ei wneud yw sicrhau nid yn unig y gymhariaeth rhwng meddygon sy'n gweithio mewn practis cyffredinol yng Nghymru a Lloegr, ond hefyd y llif trawsffiniol mewn gweithgarwch sy'n mynd i'r ddau gyfeiriad—felly, gwneud yn siŵr bod cyfatebiaeth rhwng cynlluniau. Fodd bynnag, nid wyf yn mynd i ddefnyddio'r Bil hwn i ddileu'r gofrestr locwm. Os yw Aelodau eisiau cyflwyno gwelliannau, mae croeso iddyn nhw wneud hynny, ond hoffwn ddweud nad dyna ddiben y polisi na bwriad y Bil, ac rwy'n mynd i fod yn onest nad wyf yn ceisio gwneud hynny yn y darn hwn o ddeddfwriaeth sy'n canolbwyntio'n fanwl ac sy'n ymdrin â mater penodol.

Hoffwn ddychwelyd at y pwynt ynghylch y mater yn ymwneud â'r cynnydd mewn costau, oherwydd daeth y cynnydd mewn costau indemniad ymarferwyr cyffredinol oherwydd nifer o ffactorau gwahanol, ond nid wyf yn credu ei fod yn briodol dweud ei fod yn ymwneud â chynnydd mawr mewn hawliadau. Mewn gwirionedd, un o'r materion mwyaf a arweiniodd at weithredu ledled y DU oedd penderfyniad yr Arglwydd Ganghellor i newid y gyfradd ddisgownt o ran anafiadau personol. Nawr, mae hyn yn bwysig oherwydd iddo gynyddu'r costau a'r her ynghylch sicrwydd yn sylweddol, ac, mewn gwirionedd, golygai'r symud o gyfradd ddisgownt o 2.5 y cant i gyfradd ddisgownt o -0.75 y cant ar golledion yn y dyfodol y gallai costau tanysgrifio ymarferwyr cyffredinol fod wedi cynyddu hyd at 25 y cant, ac roedd hynny'n ysgogydd pwysig iawn a olygai fod y cynllun presennol, a oedd eisoes dan bwysau—. Pan ddeuthum yn Ddirprwy Weinidog iechyd dros bum mlynedd yn ôl bellach, oherwydd fy mhechodau, roedd yn broblem bryd hynny, ar yr adeg honno, ynghylch costau yswiriant indemniad. Roedd yr hyn a wnaethom ni wrth roi arian i mewn i'r contract ymarferwyr cyffredinol yn fodd i gwmpasu ac ymdrin ag agweddau ar hynny, ond roedd yn dal yn bwysau. Ond y newid yn y gyfradd ddisgownt mewn gwirionedd oedd y mater a'n gorfododd ni i edrych ar rywbeth sy'n sylfaenol wahanol, a dyna pam yr ydym yn y sefyllfa hon nawr.