Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 16 Hydref 2019.
Wel, diolch am eich ateb, Weinidog. Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli eich bod yn ei chael hi'n anodd cael ymateb. Nawr, i’r rhai ohonom a wyliodd ddarllediadau byw o gynhadledd y Blaid Geidwadol, byddem wedi cael ateb digonol iawn, gan fod y Gweinidog yno'n gyhoeddus yn gwneud datganiadau cyhoeddus mewn cyfarfodydd, gan ddweud yn hollol glir y bydd y gronfa ffyniant gyffredin yn cael ei rheoli a'i rheoleiddio er mwyn cryfhau'r undeb, a chredaf fod hynny'n golygu'n amlwg iawn y bydd yn cael ei defnyddio mewn ffordd sy'n tanseilio holl egwyddorion ein setliad datganoli. Nawr, gan gofio ei bod yn ymddangos y gall y Gweinidog wneud hynny'n fyw ar y teledu, tybed a oes angen ymateb brys gan Lywodraeth Cymru yn mynnu ein bod ninnau hefyd yn cael yr un fraint neu bleser o gael ateb fel y gallwn fynd i'r afael â'r materion hynny yn uniongyrchol, o leiaf.