Mercher, 16 Hydref 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant.
1. Pa ddyraniadau cyllideb ychwanegol y bydd y Gweinidog yn eu rhoi i'r portffolio iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi pobl sydd â diagnosis o nam meddyliol difrifol fel rhan o gyllideb...
2. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth baratoi cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf? OAQ54525
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
4. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynglyn a sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau fod perchnogion ail gartrefi yn talu treth gyngor? OAQ54553
5. Pa mor effeithiol y mae rhyddhad ardrethi busnes wedi bod o ran helpu busnesau yng Nghymru? OAQ54533
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gasglu trethi datganoledig? OAQ54524
7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin? OAQ54547
8. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gefnogi pobl 16-18 oed wrth bennu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21? OAQ54545
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran gweithredu argymhellion adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Werthu Cymru i'r Byd? OAQ54517
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, yn ystod tri mis cyntaf 2019, dengys ffigurau—
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchod treftadaeth ddiwydiannol yng Nghaerffili? OAQ54541
4. I ba raddau y mae'r Gweinidog wedi ymgysylltu â sefydliadau yn Ogwr ynghylch blaenoriaethau masnach ryngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ54535
5. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu'r Gymraeg mewn ardaloedd lle mae llai o siaradwyr Cymraeg? OAQ54551
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo'r Gymraeg yn Sir Fynwy? OAQ54522
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo twristiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ54540
8. Pa ran y mae Chwaraeon Cymru yn ei chwarae o ran cyflawni amcanion y Gronfa Iach ac Egnïol? OAQ54526
9. Sut y bydd barn y gymuned Gwrdaidd sy'n byw yng Nghymru yn llywio'r gwaith o ddatblygu strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ54528
Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Bydd cwestiwn 1 a chwestiwn 2 y prynhawn yma yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1—Mick Antoniw.
1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am drefniadau pensiwn yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru? OAQ54555
2. A wnaiff y Comisiwn egluro sut y mae'r arian a ddyrennir i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng nghyllideb 2019-20 yn cael ei ddyrannu? OAQ54542
3. Pa ddefnydd sydd wedi'i gofnodi o bwyntiau gwefru cerbydau trydan y Cynulliad? OAQ54527
4. Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i gyflawni ei rwymedigaethau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd? OAQ54523
Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol, a bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ateb y cyntaf y prynhawn yma. Llyr Gruffydd.
Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf gan Suzy Davies.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, ac mae'r eitem yma ar ddefnyddio plastigau untro, a dwi'n galw ar Huw Irranca-Davies i wneud y cynnig. Huw Irranca-Davies.
Mae hynny'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y cynllun bathodyn glas yng Nghymru, ar gymhwystra a gweithredu....
Eitem 8, dadl Plaid Cymru: treth gyngor ar ail gartrefi. Galwaf ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig—Siân.
Sy'n dod â ni at y ddadl fer, a galwaf ar Jack Sargeant—. Os ydych chi'n mynd i adael y Siambr, a wnewch chi hynny'n gyflym, os gwelwch yn dda? Felly, symudwn yn awr at y ddadl fer a...
Mae eitem 11, sef y ddadl fer dan enw Andrew R.T. Davies, wedi'i thynnu'n ôl, ac felly daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhaglen Cymru o blaid Affrica?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia